xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 3

ATODLEN 3Hysbysiadau stop

Hysbysiadau stop

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.

(2Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad stop ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).

(3Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos—

(a)pan fo’r person yn ymgymryd â’r gweithgarwch,

(b)pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgarwch fel y mae’r person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn achosi niwed difrifol i unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath, ac

(c)pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgarwch fel y mae’r person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023 gan y person hwnnw.

(4Mae achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol—

(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch,

(b)y bydd y gweithgarwch fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw’n ymgymryd ag ef yn achosi niwed sylweddol i unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath, ac

(c)y bydd y gweithgarwch fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw’n ymgymryd ag ef yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023 gan y person hwnnw.

(5Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (3)(b) a (4)(b) yw—

(a)iechyd dynol,

(b)yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid a phlanhigion).

Cynnwys hysbysiad stop

2.  Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop;

(b)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;

(c)hawliau apelio; a

(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.

Apelau

3.—(1Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(g)unrhyw reswm tebyg arall.

Tystysgrifau cwblhau

4.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).

(2Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

(3Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau o fewn 14 o ddiwrnodau i gais o’r fath.

(5Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y sail bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.

Digollediad

5.—(1Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—

(a)bod yr hysbysiad stop yn cael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;

(b)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu

(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

(2Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu benderfyniad ynghylch swm y digollediad—

(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;

(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar wallau ffeithiol;

(c)am unrhyw reswm tebyg arall.

Troseddau

6.  Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy, neu i ddedfryd o garchar am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddedfryd o garchar am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.