Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
2023 Rhif 1289 (Cy. 227)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn10 drwy arfer y pwerau a roddir ganadran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 19991 (“Deddf 1999”), adrannau 39, 42, 52 i 55 a 62(2) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20082 (“Deddf 2008”) ac adrannau 9(1) a 9A(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 20103 (“Mesur 2010”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999, adrannau 59(3) a 60 o Ddeddf 20084 ac adran 11 o Fesur 2010.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni (yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008) y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol (sef y rheoleiddwyr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Yn unol ag adran 2(8) o Ddeddf 19995, adran 62(3) o Ddeddf 20086 ac adran 20(3)7 o Fesur 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.