xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod y ddarpariaeth o lety a gofal neu nyrsio i ddisgybl ysgol arbennig yn “gwasanaeth rheoleiddiedig” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) a byddant yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu gwasanaeth o’r fath gofrestru o dan y Ddeddf.

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ysgolion, pa un a gânt eu cynnal gan awdurdod lleol ai peidio, sy’n rhoi darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw ysgolion arbennig.

Cyfeirir at y gwasanaeth hwn fel Gwasanaeth Preswyl Ysgol Arbennig.

Mae Rheoliad 4 yn ddarpariaeth drosiannol sy’n atal dros dro effaith adran 5 o’r Ddeddf ar gyfer darparwyr presennol unrhyw wasanaethau preswyl ysgolion arbennig sydd wedi eu cynnwys mewn cais i gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2024.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.