2023 Rhif 1332 (Cy. 240)

Diwygio Cyfraith Yr Ue A Ddargedwir, Cymru

Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 20231.

Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 20232.

Yn unol â pharagraff 8(1) o Atodlen 5 i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.

RHAN 2Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20082

Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20083, yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Mesur Gwastraff (Cymru) 20103

Mae adran 17 o Fesur Gwastraff (Cymru) 20104 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

a

yn is-adran (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

b

yn is-adran (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20164

Yn adran 65(4)(a) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20165, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 20035

Yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 20036, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 20046

Mae rheoliad 2 o Reoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 20047 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

b

ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 20047

1

Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 20048 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 12(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

3

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20058

Mae rheoliad 2A o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20059 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

ym mharagraff (3)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

b

ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20099

1

Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 200910 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(3)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

3

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1A, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 200910

1

Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 200911 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn Atodlen 1, yng ngholofn “Y pwnc” o’r tabl–

a

yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 201111

Mae rheoliad 4 o Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 201112 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (1), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 201112

Mae rheoliad 2 o Reoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 201113 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

b

ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 201113

1

Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 201114 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), yn lle ““darpariaeth cig dofednod yr UE a ddargedwir” (“retained EU poultrymeat provision”)” rhodder ““darpariaeth cig dofednod a gymathwyd” (“assimilated poultrymeat provision”)”.

3

Yn rheoliad 9—

a

ym mharagraff (1), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (2)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

4

Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

5

Ym mhennawd Atodlen 1, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201114

1

Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201115 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 15—

a

ym mharagraff (1), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”.

b

ym mharagraff (4)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”;

ii

yn is-baragraff (c), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”;

iii

yn is-baragraff (d), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

3

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11A(1), yn lle “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 201215

1

Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 201216 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 11(3)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

3

Yn erthygl 11A—

a

ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (4)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 201316

1

Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 201317 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), yn lle ““Rheoliadau’r UE a ddargedwir” (“the retained EU Regulations”)” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig” (“the specified food Regulations”)”.

3

Yn rheoliad 16, yn lle “a Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “a’r Rheoliadau bwyd penodedig”.

4

Yn rheoliad 19(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Reoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig”.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 201417

Ym mharagraff 3(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 201418, yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 201618

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 201619 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(2), yn lle “y Rheoliad UE a ddargedwir o dan sylw” rhodder “Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.

3

Yn rheoliad 15A(4)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201719

1

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201720 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 5—

a

ym mharagraff (8)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (13)(b)(ii), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

3

Yn rheoliad 6(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

4

Yn rheoliad 17(4)(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

5

Yn rheoliad 25(3)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

6

Yn rheoliad 31(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

7

Ym mharagraff 2(c)(vi) o Atodlen 3, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

8

Ym mharagraff 8 o Atodlen 4, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 201820

1

Mae Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 201821 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

yn y diffiniad o “dosbarthu”, yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

yn lle ““darpariaeth eidion yr UE a ddargedwir” (“retained EU beef provision”)” rhodder ““darpariaeth cig eidion a gymathwyd” (“assimilated beef provision”)”;

c

yn lle ““darpariaeth moch yr UE a ddargedwir” (“retained EU pig provision”)” rhodder ““darpariaeth moch a gymathwyd” (“assimilated pork provision”)”.

3

Yn rheoliad 15, yn lle “â darpariaethau moch yr UE a ddargedwir” rhodder “â’r darpariaethau moch a gymathwyd”.

4

Yn rheoliad 26—

a

yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

c

ym mharagraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

5

Yn rheoliad 27—

a

yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

ii

yn is-baragraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

c

ym mharagraff (2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

d

ym mharagraff (3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

6

Yn rheoliad 36—

a

ym mharagraff (1)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

b

ym mharagraff (1)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

7

Yn Atodlen 1—

a

yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;

b

yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

8

Yn Atodlen 2—

a

yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;

b

yn Rhan 1, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

c

yn Rhan 2, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 201921

Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 201922, yn y diffiniad o “sylwedd diawdurdod”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 202022

Yn rheoliad 2(1) o Reolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 202023, yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 202023

Ym mharagraff 11(3)(a) o Atodlen 4 i Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 202024, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 202024

1

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 202025 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 21(3), yn y diffiniad o “rhanddirymiad iechyd planhigion”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

3

Yn rheoliad 38(1)(f), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

4

Yn rheoliad 43(2)(b), yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

5

Ym mhennawd Atodlen 3, yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 202225

Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 202226, yn lle “Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (p. 28) (“Deddf 2023”). Adran 19(1) yw’r pŵer i wneud darpariaeth briodol o ganlyniad i ddarpariaethau o Ddeddf 2023 ac sydd yn rhinwedd adran 20(1) yn cynnwys y gallu i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, o ganlyniad i ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir (a thermau cysylltiedig) yn gyfraith a gymathwyd (a thermau cysylltiedig) bob amser ar ôl diwedd 2023, fel y’i nodir yn adran 5 o Ddeddf 2023.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol ac mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth berthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.