Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1349 (Cy. 243)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023

Gwnaed

8 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

4 Ionawr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(1)(a), (2)(a) a (b) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4).

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57(a) a (b); Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238 (Cy. 243), Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006, erthygl 2(a) (O.S. 2006/1458) gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672) gydag effaith o 1 Gorffennaf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y mae’n ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” a “rheoliadau”.