xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

18.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

19.  Yn rheoliad 4(10F)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros”.

20.  Ar ddiwedd pob un o reoliadau 15(bc), 23(12)(bc), 49(2)(bc), 82(4)(bc) a 111(2)(bc), mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

21.  Yn rheoliad 81(10F)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros”.

22.  Yn rheoliad 110(12F)—

23.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZC—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)sydd—

(i)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu

(ii)yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)o dan 18 oed; a

(ii)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

24.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6(ac), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

PENNOD 3Lwfansau gofal iechyd yr Alban

25.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “blwyddyn bwrsari” yn lle “neu lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari neu lwfans” rhodder “mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari”;

(b)hepgorer y diffiniad o “lwfans gofal iechyd yr Alban”.

26.  Yn lle rheoliad 4(3)(c) rhodder —

(c)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs, fwrsari gofal iechyd, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol, nas cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm A;.

27.  Yn lle rheoliad 7(5)(b) rhodder—

(b)os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu.

28.  Yn lle rheoliad 81(3)(a) rhodder—

(a)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser, fwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;.

29.  Hepgorer rheoliad 110(4)(a)(ii).

PENNOD 4Diwygiadau sy’n ymwneud â bwrsari gofal iechyd – benthyciad at gostau byw

30.  Yn rheoliad 43—

(a)yn y pennawd, hepgorer “sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio”;

(b)ym mharagraff (1), hepgorer “sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio”.

31.  Yn rheoliad 45—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);

(b)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a).

32.  Yn rheoliad 52(i)(i), hepgorer “23(3) neu reoliad”.

(1)

O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/79 (Cy. 28), O.S. 2022/764 (Cy. 166) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.