xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

34.  Yn rheoliad 23F(1)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

(b)yn lle is-baragraff (b), rhodder—

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.

35.  Ym mhob un o reoliadau 80(2)(b)(ic) ac 81(3)(b)(ic), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

36.  Yn Atodlen 2, paragraff 2ZA, is-baragraff (4)—

(a)ym mharagraff (ea)—

(i)hepgorer is-baragraff (ia);

(ii)ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder “neu”;

(iii)hepgorer is-baragraff (iv) a’r “neu” o’i flaen;

(b)ym mharagraff (g)(i)—

(i)hepgorer “neu” ar ôl paragraff (ab);

(ii)ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

(ad)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, neu;

(c)ym mharagraff (g)(ii)—

(i)hepgorer “neu” ar ôl paragraff (aa);

(ii)ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—

neu

(ac)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,;

(d)ym mharagraff (h)—

(i)hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (i);

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle’r atalnod llawn rhodder “, neu”;

(iii)ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—

(iii)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

37.  Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 13F(1)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.;

(b)ym mharagraff 14(3)(b)(ic), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.