xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 4Lwfansau gofal iechyd yr Alban

42.  Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (1), yn Eithriad 3—

(i)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser, fwrsari gofal iechyd, nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P (oni bai ei fod yn grant bwrsari at gostau byw);;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser, fwrsari gofal iechyd (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio).;

(b)ym mharagraff (4), hepgorer y diffiniad o “lwfans gofal iechyd yr Alban”.

43.  Yn rheoliad 24(2), yn Achos 2, yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)mae’r person graddedig i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig;.

44.  Yn rheoliad 39, yn lle Eithriad 2 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

45.  Yn rheoliad 44(1), yn lle Eithriad 3 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

46.  Yn rheoliad 55(3), yng Nghategori 2, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu.

47.  Yn rheoliad 62(2), yn lle Eithriad 3 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

48.  Yn rheoliad 65(1), yn lle Amod 3 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—

Nid yw’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

49.  Yn rheoliad 69(2), yn lle Eithriad 3 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

50.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2 hepgorer paragraff (b).

51.  Yn Atodlen 5, ym mharagraff 2, yn Amod 4, yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)yn gwrs pan fo o leiaf un flwyddyn academaidd yn un y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn gymwys mewn perthynas â hi i wneud cais am fwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, ar yr amod bod y bwrsari neu’r dyfarndal tebyg wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

52.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, hepgorer y cofnod yn y tabl sy’n ymwneud â “lwfans gofal iechyd yr Alban”.