xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
34. Yn rheoliad 23F(1)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;
(b)yn lle is-baragraff (b), rhodder—
“(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.”