5. Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(i)ar ôl paragraff (c) mewnosoder “neu”;
(ii)hepgorer paragraffau (d), (da), (db), (dd), (e) ac (f);
(b)ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person a chanddo—
(a)
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;
(b)
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;
(c)
caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid; neu
(ch)
caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan;”.
(c)ar ôl paragraff 4C mewnosoder—
“Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan
4Ch.—(1) Person—
(a)sy’n berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sydd yn briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson a sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac
(ch)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sydd—
(i)yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan; neu
(ii)yn blentyn i briod neu bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i)o dan 18 oed; a
(ii)yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i berson a chanddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac
(ch)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.”