RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

9

Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

a

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

b

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

ab

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;