2023 Rhif 1349 (Cy. 243)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831 ac adrannau 22(1)(a), (2)(a) a (b) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154.

RHAN 1Enwi, dod i rym a chymhwyso

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ionawr 2024.

Cymhwyso2

1

Nid yw’r rheoliadau a ganlyn ond yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth, ac â ffioedd a dyfarndaliadau sy’n gymwys, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2024 ai peidio—

a

rheoliadau 4, 5, 10, 11, 15, 16, 34, 35, 36, 37, 58, 59, 60, 66 a 67 (diwygiadau sy’n ymwneud ag aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan),

b

rheoliadau 6, 12, 13, 17, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 38, 39, 40, 41, 61, 62, 68, 69 a 70 (diwygiadau sy’n ymwneud ag aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd), ac

c

rheoliadau 30, 31, 32 a 53 (diwygiadau sy’n ymwneud â bwrsari gofal iechyd – benthyciad at gostau byw a benthyciad cynhaliaeth).

2

Nid yw’r rheoliadau a ganlyn ond yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2024 ai peidio—

a

rheoliad 54 (diwygiadau i grantiau ar gyfer dibynyddion – myfyrwyr dysgu o bell), a

b

rheoliadau 63, 71, 72, 73, 74, 75 a 76 (diwygiadau sy’n ymwneud â therfynu cymhwystra yn gynnar).

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

PENNOD 1Cyflwyniad

3

Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

4

1

Ym mhob un o’r rheoliadau a bennir ym mharagraff (2), ar ôl “4C,” mewnosoder “4Ch,”.

2

Y rheoliadau a bennir at ddiben paragraff (1) yw rheoliad 4(1)(a), 5(1)(b)(i), 5(1)(c)(i), 6(2)(a), 6(3)(a), 7(2)(a), 7(3)(a), 8(1)(a) ac 8(2)(a).

5

Yn yr Atodlen—

a

ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

i

ar ôl paragraff (c) mewnosoder “neu”;

ii

hepgorer paragraffau (d), (da), (db), (dd), (e) ac (f);

b

ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person a chanddo—

    1. a

      caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;

    3. c

      caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid; neu

    4. ch

      caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan;

c

ar ôl paragraff 4C mewnosoder—

4ChPersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan

1

Person—

a

sy’n berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sydd yn briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson a sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

ch

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i berson a chanddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

ch

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

6

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4C—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

Person—

a

sydd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

ch

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

PENNOD 4Cywiriadau i’r testun Cymraeg

7

1

Ym mhob un o’r rheoliadau a bennir ym mharagraff (2), yn y testun Cymraeg—

a

ar ôl “9C,” mewnosoder “9Ch,”;

b

hepgorer “9E,”.

2

Y rheoliadau a bennir at ddiben paragraff (1) yw rheoliadau 4(1)(a), 5(1)(b)(i), 6(2)(a), 6(3)(a), 7(2)(a), 7(3)(a), 8(1)(a) ac 8(2)(a).

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

PENNOD 1Cyflwyniad

8

Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20146 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

9

Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

a

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

b

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

ab

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

10

Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

a

hepgorer paragraff (aa) (fel y’i mewnosodir gan reoliad 9(b) o’r Rheoliadau hyn);

b

mewnosoder “neu” ar ôl paragraff (b);

c

hepgorer paragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.

11

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZA(4)—

a

ym mharagraff (c)(i)—

i

hepgorer “neu” ar ôl paragraff (ab);

ii

ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

neu

ad

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

ym mharagraff (c)(ii)—

i

hepgorer “neu” ar ôl paragraff (aa);

ii

ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—

neu

ac

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

ym mharagraff (d)—

i

hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (i);

ii

ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle’r atalnod llawn rhodder “; neu”;

iii

ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—

iii

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

PENNOD 4Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

12

Yn rheoliad 6(10G)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath”;

b

yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi,

13

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZC—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person a oedd yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi.

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

PENNOD 1Cyflwyniad

14

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20157 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

15

Yn rheoliad 4(9)(a), ar ôl “4C,” mewnosoder “4D,”.

16

Yn yr Atodlen—

a

ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

i

ar ôl paragraff (c) mewnosoder “neu”;

ii

hepgorer paragraffau (e), (ea), (eb), (f), (g) ac (h);

b

ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person a chanddo—

    1. a

      caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;

    3. c

      caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid; neu

    4. d

      caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan;

c

ar ôl paragraff 4C mewnosoder—

4DPerson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan

1

Person—

a

sy’n berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

17

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4C—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i’r gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

18

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20178 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

19

Yn rheoliad 4(10F)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros”.

20

Ar ddiwedd pob un o reoliadau 15(bc), 23(12)(bc), 49(2)(bc), 82(4)(bc) a 111(2)(bc), mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

21

Yn rheoliad 81(10F)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros”.

22

Yn rheoliad 110(12F)—

23

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZC—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

24

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6(ac), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

PENNOD 3Lwfansau gofal iechyd yr Alban

25

Yn rheoliad 2(1)—

a

yn y diffiniad o “blwyddyn bwrsari” yn lle “neu lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari neu lwfans” rhodder “mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari”;

b

hepgorer y diffiniad o “lwfans gofal iechyd yr Alban”.

26

Yn lle rheoliad 4(3)(c) rhodder —

c

os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs, fwrsari gofal iechyd, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol, nas cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm A;

27

Yn lle rheoliad 7(5)(b) rhodder—

b

os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu

28

Yn lle rheoliad 81(3)(a) rhodder—

a

os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser, fwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

29

Hepgorer rheoliad 110(4)(a)(ii).

PENNOD 4Diwygiadau sy’n ymwneud â bwrsari gofal iechyd – benthyciad at gostau byw

30

Yn rheoliad 43—

a

yn y pennawd, hepgorer “sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio”;

b

ym mharagraff (1), hepgorer “sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio”.

31

Yn rheoliad 45—

a

ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);

b

ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a).

32

Yn rheoliad 52(i)(i), hepgorer “23(3) neu reoliad”.

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

33

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20189 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

34

Yn rheoliad 23F(1)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

b

yn lle is-baragraff (b), rhodder—

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.

35

Ym mhob un o reoliadau 80(2)(b)(ic) ac 81(3)(b)(ic), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

36

Yn Atodlen 2, paragraff 2ZA, is-baragraff (4)—

a

ym mharagraff (ea)—

i

hepgorer is-baragraff (ia);

ii

ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder “neu”;

iii

hepgorer is-baragraff (iv) a’r “neu” o’i flaen;

b

ym mharagraff (g)(i)—

i

hepgorer “neu” ar ôl paragraff (ab);

ii

ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

ad

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, neu

c

ym mharagraff (g)(ii)—

i

hepgorer “neu” ar ôl paragraff (aa);

ii

ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—

neu

ac

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,

d

ym mharagraff (h)—

i

hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (i);

ii

ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle’r atalnod llawn rhodder “, neu”;

iii

ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—

iii

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

37

Yn Atodlen 4—

a

ym mharagraff 13F(1)—

i

ym mharagraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

ii

yn lle paragraff (b) rhodder—

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.

b

ym mharagraff 14(3)(b)(ic), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

38

Yn rheoliad 23G(1)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

b

yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

39

Ym mhob un o reoliadau 80(2)(b)(id) ac 81(3)(b)(id), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

40

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZC—

a

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

1B

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed, a

ii

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

41

Yn Atodlen 4—

a

ym mharagraff 13G(1)—

i

ym mharagraff (a), ar ôl “(gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC)” mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;

ii

yn lle paragraff (b) rhodder—

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

b

ym mharagraff 14(3)(b)(id), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

PENNOD 4Lwfansau gofal iechyd yr Alban

42

Yn rheoliad 10—

a

ym mharagraff (1), yn Eithriad 3—

i

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser, fwrsari gofal iechyd, nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P (oni bai ei fod yn grant bwrsari at gostau byw);

ii

yn lle paragraff (b) rhodder—

b

pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser, fwrsari gofal iechyd (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio).

b

ym mharagraff (4), hepgorer y diffiniad o “lwfans gofal iechyd yr Alban”.

43

Yn rheoliad 24(2), yn Achos 2, yn lle paragraff (b) rhodder—

b

mae’r person graddedig i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig;

44

Yn rheoliad 39, yn lle Eithriad 2 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

  • Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

45

Yn rheoliad 44(1), yn lle Eithriad 3 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

  • Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

46

Yn rheoliad 55(3), yng Nghategori 2, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu

47

Yn rheoliad 62(2), yn lle Eithriad 3 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

  • Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

48

Yn rheoliad 65(1), yn lle Amod 3 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—

  • Nid yw’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

49

Yn rheoliad 69(2), yn lle Eithriad 3 (ond nid y pennawd o’i blaen) rhodder—

  • Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am fwrsari gofal iechyd a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

50

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2 hepgorer paragraff (b).

51

Yn Atodlen 5, ym mharagraff 2, yn Amod 4, yn lle paragraff (b) rhodder—

b

yn gwrs pan fo o leiaf un flwyddyn academaidd yn un y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn gymwys mewn perthynas â hi i wneud cais am fwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, ar yr amod bod y bwrsari neu’r dyfarndal tebyg wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

52

Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, hepgorer y cofnod yn y tabl sy’n ymwneud â “lwfans gofal iechyd yr Alban”.

PENNOD 5Diwygiad sy’n ymwneud â bwrsari gofal iechyd – benthyciad cynhaliaeth

53

Yn rheoliad 55(3) (fel y’i diwygir gan reoliad 46 o’r Rheoliadau hyn)—

a

yn lle Categori 1 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, nad yw’n fyfyriwr Categori 2.

b

yn lle Categori 2 (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

PENNOD 6Diwygiadau i grantiau ar gyfer dibynyddion – myfyrwyr dysgu o bell

54

Yn rheoliad 69(2), ar ôl Eithriad 7 mewnosoder—

Eithriad 8

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

a

na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

b

na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

PENNOD 7Diwygiadau amrywiol

55

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9(2)—

a

ym mharagraff (b), hepgorer “neu”

b

ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

ba

rhiant P, neu

56

Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor yn ôl y golofn gyntaf yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn briod neu’n bartner sifil a ddiogelir neu’n blentyn a ddiogelir)

Atodlen 2, paragraff 2ZA

dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn bartner a diogelir neu’n blentyn i bartner a ddiogelir)

Atodlen 2, paragraff 2ZB

dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir)

Atodlen 2, paragraff 2ZC

dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i briod neu bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros)

Atodlen 2, paragraff 3

RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

57

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 201810 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

58

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

a

hepgorer paragraff (aa);

b

ar ôl paragraff (b) mewnosoder “neu”;

c

hepgorer paragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.

59

Yn rheoliad 8(bc), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

60

Yn Atodlen 1, paragraff 4A(4)—

a

ym mharagraff (c)(i)—

i

ar ôl paragraff (ab) hepgorer “neu”;

ii

ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

neu

ad

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

b

ym mharagraff (c)(ii)—

i

ar ôl paragraff (aa) hepgorer “neu”;

ii

ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—

neu

ac

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

ym mharagraff (d)—

i

ar ôl is-baragraff (i) hepgorer “neu”;

ii

ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle’r atalnod llawn rhodder “; neu”;

iii

ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—

iii

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

61

Yn rheoliad 8(bd), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

62

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4C—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

PENNOD 4Terfynu cymhwystra yn gynnar

63

Yn rheoliad 3—

a

ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

10A

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo statws ffoadur A, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10B

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10C

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, o ran y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, fo’r cyfnod y caniateir iddo aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10D

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10E

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu fod yn blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10F

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10G

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, na fo gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10H

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo statws A fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant A, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10I

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

10J

Nid yw paragraffau (10A), (10B), (10C), (10D), (10E), (10F), (10G), (10H), (10I) nac (11) yn gymwys pan, ar y diwrnod perthnasol—

a

bo A, neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

b

ym mharagraff (11)—

i

yn is-baragraff (b), yn lle “diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw” rhodder “y diwrnod perthnasol”;

ii

yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b), yn lle “diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw” rhodder “y diwrnod perthnasol”;

c

ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

12

Yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnod perthnasol” yw—

a

diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig (“dyddiad cychwyn BA1”); neu

b

os yw’r statws perthnasol, neu’r cyfnod perthnasol y caniateir i berson aros yn y Deyrnas Unedig amdano, yn dod i ben ar neu ar ôl dyddiad cychwyn BA1, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd sy’n dechrau yn union ar ôl y flwyddyn academaidd y mae’r statws neu’r cyfnod yn dod i ben ynddi.

PENNOD 5Lwfansau gofal iechyd yr Alban

64

Hepgorer rheoliad 3(3)(j)(ii).

RHAN 8Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

PENNOD 1Cyflwyniad

65

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201911 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Aelodau o deuluoedd dinasyddion Affganistan

66

Yn rheoliad 16(1)(b)(ia), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

67

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A(4)—

a

ym mharagraff (da)—

i

hepgorer is-baragraff (ia);

ii

ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder “neu”;

iii

hepgorer is-baragraff (iv) a’r “neu” o’i flaen;

b

ym mharagraff (f)(i)—

i

hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (ab);

ii

ar ddiwedd paragraff (ac), yn lle’r hanner colon rhodder “, neu”;

iii

ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

ad

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

c

ym mharagraff (f)(ii)—

i

hepgorer “neu” ar ôl paragraff (aa);

ii

ar ddiwedd paragraff (ab), yn lle’r hanner colon rhodder “, neu”;

iii

ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—

ac

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;

d

ym mharagraff (g)—

i

hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (i);

ii

ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle’r atalnod llawn rhodder “, neu”;

iii

ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—

iii

person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd

68

Yn rheoliad 16(1)(b)(ib), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.

69

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2C—

a

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

1B

Person—

a

sydd—

i

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu

ii

yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed, a

ii

yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

b

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.

70

Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnod a ganlyn—

dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir)

Atodlen 2, paragraff 2C(3)

PENNOD 4Terfynu cymhwystra yn gynnar

71

O flaen rheoliad 12A mewnosoder y pennawd “Personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben”.

72

Yn rheoliad 12A—

a

ym mharagraff (b), yn lle “ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw” rhodder “ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol”;

b

yn y geiriau ar ôl paragraff (b), yn lle “yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw” rhodder “yn union cyn y diwrnod perthnasol”.

73

Ar ôl rheoliad 12A mewnosoder—

12AA

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar ddiwedd y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, na fo gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

74

Ar ôl rheoliad 12AA (fel y’i mewnosodir gan reoliad 73 o’r Rheoliadau hyn) mewnosoder—

Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i ben12B

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo statws ffoadur A, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben12C

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben12D

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, o ran y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, fo’r cyfnod y caniateir iddo aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol wedi dod i ben12E

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben12F

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu fod yn blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau y mae eu caniatâd Calais wedi dod i ben12G

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau sy’n peidio â bod yn wladolion Wcreinaidd a ddiogelir12H

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo statws A fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant A, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

Personau y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan wedi dod i ben

12I

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, o ran y person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, fo’r cyfnod y caniateir iddo aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

12J

Nid yw rheoliadau 12A, 12AA, 12B, 12C, 12D, 12E, 12F, 12G, 12H na 12I yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol—

a

bo A, neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

75

Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw—

    1. a

      diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig (“dyddiad cychwyn BA1”); neu

    2. b

      os yw’r statws perthnasol, neu’r cyfnod perthnasol y caniateir i berson aros yn y Deyrnas Unedig amdano, yn dod i ben ar neu ar ôl dyddiad cychwyn BA1, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd sy’n dechrau yn union ar ôl y flwyddyn academaidd y mae’r statws neu’r cyfnod yn dod i ben ynddi.

76

Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnod a ganlyn—

“diwrnod perthnasol”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

PENNOD 5Lwfansau gofal iechyd yr Alban

77

Yn rheoliad 10(1), yn Eithriad 9, hepgorer paragraff (b).

RHAN 9Arbedion

Dehongli78

Yn y Rhan hon, ystyr “blwyddyn academaidd gynharach” yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.

Arbedion: Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 201479

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo myfyriwr cyfredol (“M”) sydd ar y cynllun Affganistan yn gwneud cais am gymorth o dan Reoliadau 2014 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 (“y cwrs cyfredol”).

2

At ddibenion penderfynu a yw statws M fel myfyriwr cymwys yn terfynu cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig y mae M yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi (gweler rheoliad 6(10F) o Reoliadau 2014), mae Rheoliadau 2014 yn gymwys fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 10 ac 11 o’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “yr Athrofa” (“the Institute”) a “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2014;

  • mae i “cwrs dynodedig” (“designated course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7 o Reoliadau 2014;

  • ystyr “myfyriwr cyfredol sydd ar y cynllun Affganistan” (“current Afghan scheme student”) yw myfyriwr y penderfynodd Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd ei fod yn dod o fewn paragraff (aa) (fel y’i mewnosodir gan reoliad 9(b) o’r Rheoliadau hyn) neu (d) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2014, ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad—

    1. a

      â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd academaidd cynharach y cwrs cyfredol, neu

    2. b

      â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws M ohono i’r cwrs cyfredol;

    ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014.

Arbedion: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 201880

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo myfyriwr cyfredol (“M”) sydd ar y cynllun Affganistan yn gwneud cais am gymorth o dan Reoliadau 2018 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs perthnasol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 (“y cwrs cyfredol”).

2

At ddibenion penderfynu a yw statws M fel myfyriwr perthnasol yn terfynu cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol y mae M yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi (gweler rheoliad 23F o Reoliadau 2018 a pharagraff 13F o Atodlen 4 iddynt (yn ôl y digwydd)), mae Rheoliadau 2018 yn gymwys fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 34, 35, 36 a 37 o’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cwrs dynodedig” (“designated course”), “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”), “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) a “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyron a roddir yn Rheoliadau 2018;

  • ystyr “cwrs perthnasol” (“relevant course”) yw cwrs dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig;

  • ystyr “myfyriwr perthnasol” (“relevant student”) yw myfyriwr cymwys neu fyfyriwr ôl-raddedig cymwys;

  • ystyr “myfyriwr presennol sydd ar y cynllun Afghanistan” (“current Afghan scheme student”) yw myfyriwr y penderfynodd Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd bod y myfyriwr yn dod o fewn paragraff 2ZA(4)(ea)(ia) neu (iv) o Atodlen 2 i Reoliadau 2018, ei fod yn fyfyriwr perthnasol—

    1. a

      mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd academaidd cynharach y cwrs cyfredol, neu

    2. b

      mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs perthnasol y trosglwyddwyd statws M fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ohono i’r cwrs cyfredol;

    ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sydd mewn naw Rhan, yn diwygio amryw Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid myfyrwyr, ac mewn cysylltiad ag ef.

Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso.

Mae Rhannau 2 i 8 yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau a ganlyn—

a

mae Rhan 2 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”),

b

mae Rhan 3 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”),

c

mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”),

d

mae Rhan 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),

e

mae Rhan 6 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),

f

mae Rhan 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”), ac

g

mae Rhan 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae Rhan 9 yn gwneud arbedion mewn cysylltiad â Rheoliadau 2014 a Rheoliadau 2018.

Mae diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn—

a

yn diweddaru’r categorïau o fyfyrwyr cymwys yn Rheoliadau 2014, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 ac yn gwneud newidiadau cyfatebol i Reoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, i gynnwys aelodau penodol o deuluoedd personau y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y cynlluniau mewnfudo sy’n ymwneud ag Affganistan neu Wcráin;

b

yn diweddaru’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yn Rheoliadau 2014 o ganlyniad i newidiadau i’r rheolau mewnfudo;

c

yn hepgor cyfeiriadau darfodedig at ddeddfwriaeth yr Alban yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;

d

yn darparu i fyfyrwyr sy’n gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd, gymhwyso i gael cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;

e

yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf er mwyn cymhwyso i gael grant ar gyfer dibynyddion, oni bai bod eithriad yn gymwys, o dan Reoliadau 2018; ac

f

yn darparu ar gyfer terfynu cymhwystra yn gynnar o dan y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 pan fo mathau penodol o ganiatâd sydd gan fyfyriwr i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi dod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.