2023 Rhif 14 (Cy. 3)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys o ran gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi a chychwynI11

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Chwefror 2023.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 13.2.2023, gweler ergl. 1(2)

Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018I22

1

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 20182 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • Adnodd Cyfyngedig (rhif y cwmni 14227941)

  • Cymwysterau Cymru

  • Cyngor y Gweithlu Addysg

  • Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Annotations:
Commencement Information
I2

Ergl. 2 mewn grym ar 13.2.2023, gweler ergl. 1(2)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod 4 corff ychwanegol yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.

Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff a fewnosodir yn yr Atodlen gan y Gorchymyn hwn gael eu cynnwys mewn cynnig Cyllidebol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.