Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 14 (Cy. 3)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Gwnaed

11 Ionawr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

13 Ionawr 2023

Yn dod i rym

13 Chwefror 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys o ran gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Chwefror 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 13.2.2023, gweler ergl. 1(2)

Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018LL+C

2.—(1Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Adnodd Cyfyngedig (rhif y cwmni 14227941)

Cymwysterau Cymru (3)

Cyngor y Gweithlu Addysg (4)

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 13.2.2023, gweler ergl. 1(2)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod 4 corff ychwanegol yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.

Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff a fewnosodir yn yr Atodlen gan y Gorchymyn hwn gael eu cynnwys mewn cynnig Cyllidebol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2006 p. 32; mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(1) a (2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25). Diwygiwyd is-adrannau (9) a (10) o adran 126A gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) a pharagraffau 2(6)(a) a (b) o Atodlen 1 iddi, yn y drefn honno.

(3)

Sefydlwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5).

(4)

Sefydlwyd gan adran 8(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) fel Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac fe’i hailenwyd yn Gyngor y Gweithlu Addysg gan adran 2(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5).

(5)

Sefydlwyd gan adran 5(1) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1992 (p. 38) fel Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Ysgolion yng Nghymru ac fe’i hailenwyd yn Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21).