Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro gwallau yn O.S. 2023/953 (Cy. 155) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1421 (Cy. 250)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

18 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

20 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

11 Ionawr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 7(8), 41(3), (5) a (6), 43, 44, 47, 48(1) a (3), 54(6) a (7), 135 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2024.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

2.  Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2(a), yn lle “Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004” rhodder “Rheoliadau 2004”.

4.  Yn rheoliad 3(1)—

(a)yn y rhestr sydd yn nhrefn yr wyddor, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “Cofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol” (“the General Pharmaceutical Council Register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010 (sefydlu a chynnal y Gofrestr a mynediad iddi);;

Cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council Register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir o dan erthygl 5(1) o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (cofrestru);;

ystyr “y Cyngor Fferyllol Cyffredinol” (“the General Pharmaceutical Council”) yw’r corff a sefydlwyd o dan erthygl 4(1) o Orchymyn Fferylliaeth 2010(3) (y Cyngor a’i bwyllgorau);;

y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council”) yw’r corff a sefydlwyd o dan erthygl 3(1) o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(4) (y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a’i bwyllgorau);;

mae i “meddyg fferyllol” (dispensing doctor”) yr un ystyr ag a roddir iddo gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Fferyllol (dehongli);;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”), mewn perthynas â chlaf, yw person a chanddo hawlogaeth i wneud cais am wasanaethau fferyllol ar ran y claf yn rhinwedd rheoliad 62(a) i (c) o’r Rheoliadau Fferyllol (arfer yr hawl i ddewis mewn achosion penodol);;

(b)yn y diffiniad o “Rheoliadau 2004”, yn y testun Cymraeg, yn lle “Mawrth” rhodder “Cymru”;

(c)yn y diffiniad o “dyfarnwr”, yn y testun Cymraeg, hepgorer “iddi”;

(d)hepgorer y diffiniad o “Bwrdd Partneriaeth Integredig Ardal”;

(e)yn y diffiniad o “lluoedd arfog y Goron”, yn y testun Saesneg—

(i)o flaen y gair “regular” mewnosoder “the”;

(ii)o flaen y gair “reserve” mewnosoder “the”;

(f)yn y diffiniad o “gwasanaethu brechu ac imiwneiddio i blant”—

(i)yn y testun Cymraeg, yn lle “gwasanaethu” rhodder “gwasanaethau”;

(ii)yn y testun Saesneg, yn lle “gwasanaethu” rhodder “gwasanaethau”;

(g)yn y diffiniad o “deintydd”, ar ôl y geiriau “o dan” mewnosoder “adran 14 o”;

(h)yn y diffiniad o “gwasanaethau gweinyddu”, yn lle “trefniant” rhodder “trefniadau”;

(i)yn y diffiniad o “Datganiad ar Hawlogaethau Ariannol yr GMC”, yn y testun Cymraeg, yn union ar ôl “ Entitlements” mewnosoder “)”;

(j)yn y diffiniad o “Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol”, yn y testun Saesneg, yn lle “General Practitioner Committee (Wales)” rhodder “Welsh General Practitioners Committee”;

(k)hepgorer y diffiniad o “awdurdod trwyddedu”;

(l)yn y diffiniad o “Bwrdd Iechyd Lleol”, hepgorer “, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall,”;

(m)yn y diffiniad o “anghymhwysiad cenedlaethol”, yn is-baragraff (a)(iv)—

(i)yn lle “adrannau” rhodder “adran”;

(ii)yn lle “83, 86, 103 neu 105 (cyflawnwyr gwasanaethau fferyllol a chynorthwywyr)” rhodder “83 (rheoliadau o ran gwasanaethau fferyllol), 86 (personau sydd wedi eu hawdurdodi i ddarparu gwasanaethau fferyllol), 103 (cymhwyso deddfiadau) neu 105 (rhestrau atodol)”;

(n)yn y diffiniad o “contractwr cyfarpar GIG”, yn y testun Saesneg, yn lle ““NHS appliance contractor” rhodder ““NHS appliance contractor””;

(o)yn y diffiniad o “proffil practis ar-lein”, yn lle “gwefan y” rhodder “un o wefannau’r”;

(p)yn y diffiniad o “optometrydd-ragnodydd annibynnol”, yn y testun Cymraeg, yn lle “optegwyr fferyllol” rhodder “optegwyr cyflenwi”;

(q)yn y diffiniad o “claf”, yn is-baragraff (c), yn lle “17(7) neu 17(9)” rhodder “17(7) neu (9)”;

(r)yn y diffiniad o “Rheoliadau Fferyllol”, yn y testun Cymraeg, yn lle “Mawrth” rhodder “Cymru”;

(s)yn y diffiniad o “gwasanaethau fferyllol”, yn lle “gwasanaethau cyfeiriedig” rhodder “gwasanaethau a drefnwyd o ganlyniad i gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf”;

(t)yn y diffiniad o “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol”, yn lle “Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002” rhodder “Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001”;

(u)yn y diffiniad o “rhaglen ôl-gofrestru”—

(i)yn y testun Cymraeg, yn lle “post registration” rhodder “post-registration”;

(ii)yn y testun Saesneg, yn lle “post registration” rhodder “post-registration

(iii)yn lle “reoliad” rhodder “adran”;

(v)yn y diffiniad o “rhestr gofal sylfaenol”, yn y testun Saesneg—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “and” rhodder “or section”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “and” rhodder “or”;

(w)yn y diffiniad o “corff rheoleiddio neu oruchwylio”, yn is-baragraff (i), yn lle “25(2)” rhodder “25(3)”;

(x)yn y diffiniad o “rhagnodydd amlroddadwy”, hepgorer “2006” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(y)yn y diffiniad o “ysgrifennu”, yn lle “ym mharagraff 109” rhodder “ym mharagraff 109(1)”.

(2Yn rheoliad 3(3), yn y testun Cymraeg, yn lle “Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno” rhodder “Mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno”.

5.  Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (3)(c), yn lle “Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” rhodder “Reoliadau Ymarferwyr Meddygol”;

(b)ym mharagraffau (4)(b) a (5), yn y testun Cymraeg, yn lle “Mawrth” rhodder “Rhagfyr”.

6.  Yn rheoliad 6(2)—

(a)yn is-baragraff (f), yn y testun Cymraeg, yn lle “Mawrth” rhodder “Rhagfyr”;

(b)yn is-baragraff (g)(i), yn y testun Cymraeg, yn lle “Mawrth” rhodder “Awst”;

(c)yn is-baragraff (n)(i), yn lle “VIIA” rhodder “7A”.

7.  Yn rheoliad 7(1), yn y testun Saesneg, yn lle “regulation”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “regulations”.

8.  Yn rheoliad 8, yn y testun Cymraeg, yn lle “rheoliadau” rhodder “rheoliad”.

9.  Yn rheoliad 9(1), yn y testun Saesneg, rhwng “section 7” a “the Act” mewnosoder “of”.

10.  Yn rheoliad 12(4), yn lle “rheoliad 12(3)” rhodder “paragraff (3)”.

11.  Yn rheoliad 17—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “gwasanaethau meddygol cyffredinol” rhodder “GMC”;

(b)ym mharagraff (2)(a), yn y testun Saesneg, yn lle “its” rhodder “the contractor’s”;

(c)ym mharagraff (4), yn y diffiniad o “clefyd”—

(i)yn y testun Saesneg, yn lle “clefyd” rhodder “ clefyd”;

(ii)yn y testun Cymraeg, yn lle “chymeriad” rhodder “symbol”;

(d)ym mharagraff (6), yn lle “grybwyllir” rhodder “bennir”.

12.  Yn rheoliad 22(i), yn lle “adrannau” rhodder “adran”.

13.  Yn y pennawd i reoliad 24, yn lle “Setiau Data a Busnes” rhodder “setiau data a busnes”.

14.  Yn rheoliad 28—

(a)ym mharagraff (3), yn lle “ym mharagraffau (4), (5), (6), (7) ac (8)” rhodder “ym mharagraffau (4) i (8)”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “i baragraffau (5), (6), (7) ac (8)” rhodder “i baragraffau (5) i (8)”;

(c)ym mharagraff (5)—

(i)yn lle “ymwneud â hwy (a rhaid” rhodder “ymwneud â hwy. Rhaid”;

(ii)hepgorer “)” ar ddiwedd y paragraff;

(d)ym mharagraff (11)—

(i)yn is-baragraff (c), yn y testun Cymraeg, yn lle “ddarparwyr cyfatebol” rhodder “wasanaethau cyfatebol”;

(ii)yn is-baragraff (c)(ii), yn y testun Cymraeg, hepgorer “a”;

(iii)ar ôl is-baragraff (c)(ii), yn y testun Cymraeg, mewnosoder—

i unrhyw berson priodol arall neu unrhyw bersonau priodol eraill a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a.

15.  Yn rheoliad 31(5), yn y testun Saesneg, hepgorer “and”.

16.  Yn Atodlen 1—

(a)yn lle’r pennawd “Tabl 1” rhodder “Tabl”;

(b)yn y Tabl, yn yr ail golofn—

(i)yn y cofnod cyntaf, yn y testun Cymraeg, yn lle “a’r Môr” rhodder “a Môr-filwyr”;

(ii)ar ôl “Deddf Tâl a Phensiynau’r Llynges a’r Môr 1865” mewnosoder “(p. 73)”;

(iii)ar ôl “Deddf yr Awyrlu (Cyfansoddiad) 1917” mewnosoder “(p. 51)”;

(iv)ar ôl “Deddf Pensiynau (y Llynges, y Fyddin, yr Awyrlu a’r Llynges Fasnachol) 1939” mewnosoder “(p. 83)”;

(v)ar ôl “Deddf Anafiadau Personol (Darpariaethau Brys) 1939” mewnosoder “(p. 82)”;

(vi)ar ôl “Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992” mewnosoder “(p. 5)”;

(vii)ar ôl “Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992” mewnosoder “(p. 4)”;

(viii)ar ôl “Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998” mewnosoder “(p. 14)”;

(ix)ar ôl “Adran 11 o Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953” mewnosoder “(p. 20)”;

(x)ar ôl “Adran 142 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983” mewnosoder “(p. 20)”;

(xi)ar ôl “Deddf Rheithgorau 1974” mewnosoder “(p. 23)”;

(xii)ar ôl “Deddf Lluoedd Wrth Gefn (Diogelu Cyflogaeth) 1985” mewnosoder “(p. 22)”;

(xiii)ar ôl “Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983” mewnosoder “(p. 2)”;

(xiv)ar ôl “Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006” mewnosoder “(p. 41)”;

(xv)ar ôl “Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992” mewnosoder “(p. 28)”.

17.  Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1(1)(b), yn y testun Cymraeg, yn lle “79” rhodder “78”;

(b)ym mharagraff 1(2)(a) ac 1(3), yn lle “Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru” rhodder “Iechyd Cyhoeddus Cymru”;

(c)ym mharagraff 1(3), yn y testun Saesneg, yn lle “2(a)” rhodder “(2)(a)”;

(d)ym mharagraff 1(4), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(e)ym mharagraff 3(2)(a), ar ôl “blant” mewnosoder “y mae gan y contractwr gyfrifoldeb amdanynt o dan y contract”;

(f)ym mharagraff 7(1)(b), yn y testun Saesneg, yn lle “vaccines” rhodder “vaccinations”;

(g)ym mharagraff 7(2), yn y testun Saesneg, hepgorer “(“gwybodaeth am yr imiwneiddiad”)”.

18.  Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 4(1)(a), yn y testun Saesneg, yn lle “stack” rhodder “stacks”;

(b)ym mharagraff 16, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Yn y paragraff hwn, ac ym mharagraffau 18 a 19, ystyr “gwasanaethau” yw gwasanaethau meddygol sylfaenol.;

(c)ym mharagraff 22(1)(b), yn y testun Cymraeg, yn lle “44”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “43”;

(d)ym mharagraff 29(3), yn lle “cyn diwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â dyddiad cais y contractwr” rhodder “yn ystod y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dod i ben â dyddiad cais y contractwr”;

(e)ym mharagraff 29(10), yn y testun Saesneg, yn lle “sub-paragraphs”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “sub-paragraph”;

(f)yn y pennawd i baragraff 31, yn lle “Dileu cleifion o’r rhestr os ydynt wedi eu cofrestru” rhodder “Dileu claf o’r rhestr os yw wedi ei gofrestru”;

(g)ym mharagraff 39(3), yn y testun Cymraeg, yn lle “42” rhodder “41”;

(h)ym mharagraff 49(8), yn y testun Cymraeg, yn lle “58” rhodder “57”;

(i)ym mharagraff 49(10), yn lle “16, 18” rhodder “16, 16A, 18”;

(j)ym mharagraff 49(12)(b), yn lle “Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971” rhodder “Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971(5)”;

(k)ym mharagraff 50(1)(b), yn y testun Cymraeg, yn lle “58” rhodder “57”;

(l)ym mharagraff 51(1), yn y testun Saesneg, yn lle “DHCW” rhodder “Digital Health and Care Wales”;

(m)ym mharagraff 54(2), yn lle “rheoliad” rhodder “paragraff”;

(n)ym mharagraff 55(7)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “16, 18”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “16, 16A, 18”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “16, 18”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “16, 16A, 18”;

(o)ym mharagraff 56(4), yn y testun Saesneg, yn lle “IX”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “9”;

(p)ym mharagraff 58(2), yn lle “baragraff” rhodder “is-baragraff”;

(q)ym mharagraff 59—

(i)yn y testun Cymraeg—

(aa)yn lle “baragraffau” rhodder “is-baragraffau”;

(bb)yn lle “baragraff” rhodder “is-baragraff”;

(cc)yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(ii)yn y testun Saesneg—

(aa)yn lle “paragraphs” rhodder “sub-paragraphs”;

(bb)yn lle “paragraph”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “sub-paragraph”;

(r)ym mharagraff 66(1), yn lle “baragraff” rhodder “is-baragraff”;

(s)ym mharagraff 66(3), yn lle “paragraff” rhodder “is-baragraff”;

(t)ym mharagraff 72(3)(a), yn lle “paragraff” rhodder “is-baragraff”;

(u)ym mharagraff 75(3), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(v)ym mharagraff 78(13), yn lle “rheoliad” rhodder “paragraff”;

(w)ym mharagraff 79(1)—

(i)yn lle “baragraff” rhodder “is-baragraff”;

(ii)yn y testun Saesneg, hepgorer “(WGPR)”;

(x)ym mharagraff 79(2), yn y testun Saesneg, yn lle “WGPR” rhodder “Welsh GP Record”;

(y)ym mharagraff 79(3), yn lle “rheoliad” rhodder “paragraff”;

(z)ym mharagraff 80(1), yn lle “cyfleuster o’r enw “GP2GP”” rhodder “cyfleuster GP2GP”;

(aa)ym mharagraff 80(2), yn lle “rheoliad” rhodder “paragraff”;

(bb)ym mharagraff 81(2), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(cc)yn y pennawd i baragraff 86, hepgorer “a’r Adnodd Data Cenedlaethol”;

(dd)ym mharagraff 86(1), yn lle “â pharagraff” rhodder “ag is-baragraff”;

(ee)ym mharagraff 87, yn y tabl, yng ngholofn Disgrifiad y Dangosydd ar gyfer Rhif adnabod Dangosydd DM014, yn y testun Saesneg, yn lle “diagnoses” rhodder “diagnosed”;

(ff)ym mharagraff 91(4), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(gg)ym mharagraff 92(4), yn y rhestr sydd yn nhrefn yr wyddor, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “swyddog nyrsio” (“nursing officer”) yw proffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gofrestru ar y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth ac sydd—

(a)

wedi ei gyflogi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu

(b)

wedi ei ddarparu gan sefydliad o dan gontract gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

(hh)ym mharagraff 93(7), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(ii)ym mharagraff 106—

(i)yn is-baragraff (9), yn y testun Saesneg, yn union ar ôl “if earlier” mewnosoder “,”;

(ii)yn is-baragraff (13), yn y testun Cymraeg, yn union ar ôl “hestynnwyd” mewnosoder “.”;

(jj)ym mharagraff 107(2)(a), yn y testun Saesneg, o flaen “the Act”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “of”;

(kk)ym mharagraff 109(1), yn lle “i baragraffau” rhodder “is-baragraff (2) a pharagraffau”;

(ll)ym mharagraff 111, yn y testun Saesneg, yn union ar ôl “practising in partnership”, yn y lle cyntaf a’r trydydd lle y mae’n digwydd, mewnosoder “,”;

(mm)ym mharagraff 114(4), yn y testun Cymraeg, ar ôl “gan y” mewnosoder “Bwrdd Iechyd Lleol neu’r”;

(nn)ym mharagraff 117—

(i)yn is-baragraff (4)(b), yn lle “â pharagraff” rhodder “ag is-baragraff”;

(ii)yn is-baragraff (6)(a) —

(aa)yn y testun Cymraeg, yn lle’r geiriau “Banel Addasrwydd i Ymarfer” rhodder “Dribiwnlys Ymarferwyr Meddygol”;

(bb)yn y testun Cymraeg, yn lle’r geiriau “panel addasrwydd i ymarfer” rhodder “Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol”;

(cc)yn y testun Saesneg, yn lle’r geiriau “fitness to practise panel”, ym mhob lle y maent yn digwydd, rhodder “Medical Practitioners Tribunal”;

(iii)yn is-baragraff (6)(b), yn lle “Banel Gorchmynion Interim” rhodder “Dribiwnlys Gorchmynion Interim”;

(iv)yn is-baragraff (7), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;

(oo)ym mharagraff 119(3)—

(i)ym mharagraff (o)(i)—

(aa)yn lle “VIIA” rhodder “7A”;

(bb)yn y testun Saesneg, hepgorer “applies”;

(ii)ym mharagraff (q), yn lle “IV” rhodder “4”;

(iii)ym mharagraff (v)—

(aa)ar ôl “chwmni” mewnosoder “a phan fo un neu ragor o’r unigolion hynny wedi gwrthod cydymffurfio â chais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei archwilio’n feddygol”;

(bb)yn lle “bod y Bwrdd Iechyd Lleol” rhodder “nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol”;

(pp)ym mharagraff 126(1), yn y testun Cymraeg, ar ôl “123” mewnosoder “(2)”;

(qq)ym mharagraff 135, yn y testun Cymraeg, daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff 135.—(1).

19.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 1—

(a)yn is-baragraff (r), yn lle “ym mharagraff (bb)” rhodder “yn is-baragraff (bb)”;

(b)yn is-baragraff (w), ar ôl “60(2)(b)” mewnosoder “o Atodlen 3”.

20.  Yn Atodlen 5—

(a)hepgorer paragraff 1(2);

(b)hepgorer paragraff 1(3);

(c)ym mharagraff 2(2)(a)(i)(aa), yn y testun Saesneg, yn lle ““56(2)” rhodder ““56(2)””;

(d)hepgorer paragraff 2(2)(a)(iv)(aa);

(e)hepgorer paragraff 2(2)(b)(i);

(f)ym mharagraff 2(3)—

(i)ym mharagraff (a)(i), yn y testun Saesneg, yn lle “subparagraph” rhodder “sub-paragraph”;

(ii)hepgorer paragraff (a)(ii);

(iii)hepgorer paragraff (c).

21.  Yn Atodlen 6—

(a)yn y pennawd i Atodlen 6, yn lle “Dirymiadau” rhodder “Dirymu”;

(b)ym mharagraff 1, yn lle “Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004” rhodder “Rheoliadau 2004”.

22.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli ac addasu), yn y diffiniad o “Medical Regulations” ar ôl “Services” mewnosoder “Contracts”.

(3Yn rheoliad 23(2)(a) (cais am gynnwys person mewn rhestr o gyflawnwyr meddygol) hepgorer “or regulation 10(6) of the Medical Regulations”.

23.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “rhagnodydd amlroddadwy”, yn lle “53” rhodder “52”;

(b)ym mharagraff (3)(b), hepgorer “a 61”.

(3Yn Atodlen 7 (telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol)—

(a)ym mharagraff 5(c) (gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan y meddyg fferyllol), yn lle “56” rhodder “55”;

(b)ym mharagraff 10 (cwynion a phryderon)—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “102” rhodder “101”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “103” rhodder “102”.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023(8) (“y prif Reoliadau”). Mae’r rheoliadau hynny’n nodi, ar gyfer Cymru, y fframwaith ar gyfer contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(9).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i’r prif Reoliadau er mwyn cywiro gwallau o natur dechnegol a mewnosod diffiniadau newydd.

O ganlyniad i’r cywiriadau sydd wedi eu gwneud i’r prif Reoliadau, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(10) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020(11).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2010/231. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

O.S. 2002/254; diwygiwyd paragraff 3(1) gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) er mwyn newid enw’r corff i’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2020/1073 (Cy. 241), a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/953 (Cy. 155). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources