2.—(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (Dosbarth 6), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sydd—
(a)yn atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn;
(b)yn pennu na chaniateir defnyddio’r annedd ond ar gyfer llety gwyliau; neu
(c)yn atal meddiannaeth fel unig neu brif breswylfa person.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1(2)
O.S. 2015/2068, a ddiwygiwyd gan baragraff 102(1) o Atodlen 3 i Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458).