Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023

Diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9 (Dosbarth 6), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sydd—

(a)yn atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn;

(b)yn pennu na chaniateir defnyddio’r annedd ond ar gyfer llety gwyliau; neu

(c)yn atal meddiannaeth fel unig neu brif breswylfa person..

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1(2)

(1)

O.S. 2015/2068, a ddiwygiwyd gan baragraff 102(1) o Atodlen 3 i Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458).