Dehongli2

1

Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiladwaith, ac unrhyw ran o adeilad fel y’i diffinnir yn y modd hwnnw, ond nid yw’n cynnwys cyfarpar neu beiriannau a gynhwysir mewn adeilad;

  • ystyr “adran y ffin” (“border department”) yw unrhyw un neu ragor o blith—

    1. a

      Gweinidogion Cymru;

    2. b

      yr awdurdod iechyd porthladd ar gyfer Porthladd Caergybi;

    3. c

      Comisiynwyr Cyllid a Thollau ei Fawrhydi;

    4. d

      yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol;

    5. e

      yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;

    6. f

      yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth;

  • ystyr “ardal dirlunio newydd” (“new landscaping area”) yw’r ardal sydd wedi ei marcio ar y map fel “Clustogfa Sgrinio’r Tirlun Dangosol” ac sydd wedi ei harlliwio’n wyrdd gyda chroeslinellau;

  • ystyr “yr ardal ddatblygadwy” (“the developable area”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Ardal ddatblygadwy” ac y dangosir ei ffin allanol gan ymyl allanol y ffin doredig ddu;

  • mae “arwyneb caled” (“hard surfacing”) yn cynnwys unrhyw arwyneb artiffisial, a chaiff fod yn hydraidd neu’n anhydraidd fel y pennir;

  • mae i “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yr ystyr a roddir i “local planning authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903;

  • mae i “awdurdod lleol” (“local authority”) yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 336 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19904;

  • ystyr “brigiad creigiog” (“rocky outcrop”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Brigiad Creigiog” ac sydd wedi ei harlliwio’n wyrdd tywyll gyda phatrwm triongl sy’n ailadrodd;

  • mae i “datblygu” (“development”) yr un ystyr â “development” yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a wneir yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddir gan erthygl 3;

  • ystyr “datblygwr” (“developer”) yw’r awdurdod lleol neu adran y ffin neu berson sy’n gwneud y datblygiad ar ran awdurdod lleol neu adran y ffin ar yr adeg berthnasol;

  • ystyr “derbynyddion preswyl” (“residential receptors”) yw’r anheddau preswyl yn y cyfeiriadau stryd a ganlyn yng Nghaergybi—

    1. a

      Kingsland Road;

    2. b

      Penrhyn Geiriol;

    3. c

      Lôn Trefignath;

  • ystyr “ffordd fynediad argyfwng” (“emergency access road”) yw unrhyw ffordd o’r fynedfa argyfwng ar y briffordd sydd wedi ei marcio â’r saethau glas ar y map, hyd at y llawr caled agosaf;

  • mae i “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20055;

  • ystyr “y map” (“the map”) yw’r map sydd wedi ei farcio “Map y cyfeirir ato yng Ngorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru) (Ymadael â’r UE) 2023, rhif y dyluniad: BCP22-006-05-01 diwygiad P01.11” y mae copi ohono, wedi ei lofnodi gan aelod o’r Uwch Wasanaeth Sifil yng Nghyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru, ar gael i edrych arno yn—

    1. a

      Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

    2. b

      www.llyw.cymru6, ac

    3. c

      Cyngor Sir Ynys Môn, yr Adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW;

  • ystyr “mynedfa’r safle” (“site entrance”) yw’r lleoliad a ddangosir ar y map fel “Mynedfa i’r safle a ganiateir” a chan y ddwy saeth goch;

  • mae “nwyddau” (“goods”) yn cynnwys planhigion ac anifeiliaid;

  • ystyr “Parth A” (“Zone A”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Parth A – 23m” ac sydd wedi ei harlliwio’n borffor gyda phatrwm tonnog sy’n ailadrodd;

  • ystyr “Parth B” (“Zone B”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Parth B – 33m” ac sydd wedi ei harlliwio’n wyrdd golau gyda phatrwm llinell letraws sy’n ailadrodd;

  • ystyr “y tir” (“the land”) yw’r tir sy’n cynnwys Plot 9, Parc Cybi, Caergybi, LL65 2YQ y dangosir ei ffin allanol gan ymyl allanol llinell goch fras ar y map;

  • ystyr “tirlunio” (“landscaping”) yw—

    1. a

      plannu coed, gwrychoedd, llwyni neu laswellt a’u cynnal a’u cadw;

    2. b

      ffurfio argloddiau neu newidiadau eraill i lefelau’r ddaear;

  • ystyr “tirlunio presennol” (“existing landscaping”) yw’r coed a’r llystyfiant presennol o ymyl ffin dde-orllewinol y tir i ymyl ffin dde-ddwyreiniol y tir gan gynnwys y tu ôl i’r pwll presennol ac a nodwyd ar y map—

    1. a

      fel “Tirlunio presennol i’w gadw”, a

    2. b

      wedi ei arlliwio’n oren gyda phatrwm ongl sgwâr sy’n ailadrodd.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at uchder adeilad yn gyfeiriad at ei uchder wrth fesur o ddatwm ordnans.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at fesuriad o ffin yn gyfeiriad at fesuriad unionlin sy’n unionsyth i unrhyw bwynt ar y ffin o dan sylw.

4

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at derfynau sŵn nad ydynt yn uwch na desibelau (dB) penodedig yn gyfeiriad at gyfartaledd lefel pwysedd sain dros amser sydd wedi’i phwysoli yn unol ag “A” am gyfnod o un awr (LAeq, 1awr).