2023 Rhif 259 (Cy. 36) (C. 13)
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 3) 2023
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 20201, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 3) 2023.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Mawrth 20232
1
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 7 Mawrth 2023—
a
adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd); a
b
adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).
2
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 7 Mawrth 2023—
a
adran 25 (rheoliadau); a
b
adran 28 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 12 | 1 Ebrill 2022 | |
Adran 19 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2022 | |
Adran 21 | 1 Ebrill 2022 | |
Adran 22 | 1 Ebrill 2022 | |
Adran 24 | 8 Mawrth 2022 | |
Adran 26 | 8 Mawrth 2022 | |
Atodlen 1 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2022 | |
Paragraff 22 o Atodlen 1 | 1 Hydref 2022 |
Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).