NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2(1) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 7 Mawrth 2023, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben galluogi i reoliadau gael eu gwneud o dan y darpariaethau hynny—

(a)adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd); a

(b)adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).

Mae erthygl 2(2) yn dwyn i rym adran 25 (rheoliadau) ac adran 28 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.) ar 7 Mawrth 2023.