2023 Rhif 261 (Cy. 38)

Anifeiliaid, CymruLles Anifeiliaid

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 30(1) a 30a(8) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig1 (“Rheoliad (EC) Rhif 1/2005”) ac Erthyglau 144(6) a 154(2) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion2 (“Rheoliad (EU) 2017/625”).

Yn unol ag Erthygl 30a(9) o Reoliad (EC) Rhif 1/2005 ac Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio’n sylweddol arnynt a’r cyrff neu’r personau eraill hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.