Diwygio Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 20074
1
Mae Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 20073 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2(3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
;
c
Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion
3
Yn erthygl 24—
a
yn lle paragraff (4) rhodder—
4
Caiff arolygydd gymryd copïau o unrhyw ddogfen—
a
a arolygwyd er mwyn canfod a gydymffurfiwyd â darpariaethau’r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 neu Reoliad (EU) 2017/625;
b
a arolygwyd wrth gynnal rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EU) 2017/625.
b
ym mharagraff (7), yn lle “bwynt 8” rhodder “baragraff 13(b)”.
4
Yn erthygl 27(a), ar ôl “1255/97”, mewnosoder “, Rheoliad (EU) 2017/625”.