Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau Bwyd, a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ynghylch awdurdodiadau cynhyrchion bwyd rheoleiddiedig. Maent hefyd yn gwneud mân gywiriadau i is-offerynnau Cymreig amrywiol ar gyfraith bwyd a chyfraith bwyd anifeiliaid.

Gwneir Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 2 i 4 ac Atodlenni 1 a 2) drwy arfer pwerau yn Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 sy’n sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd (EUR 2008/1331). Gyda’i gilydd, mae’r diwygiadau a wneir yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer awdurdodi, o ran Cymru, roi ar y farchnad a defnyddio’r ychwanegyn bwyd E 960c rebaudiosid M a gynhyrchir drwy addasu glycosidau stefiol o Stevia ag ensymau. Mae’r cofnodion awdurdodi presennol ar gyfer yr ychwanegyn bwyd E 960 glycosidau stefiol yn cael eu newid i adlewyrchu’r enw a’r E-rif diwygiedig E 960a glycosidau stefiol o Stevia.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr ddomestig o ychwanegion bwyd sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn bwydydd yn Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 ar ychwanegion bwyd (EUR 2008/1333). Mae Atodlen 1 hefyd yn cywiro’r E-rif mewn dau gofnod yn yr Atodiad hwnnw ar gyfer yr ychwanegyn bwyd E 969 Advantame.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 (EUR 2012/231).

Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu ar gyfer cyfnod o 18 mis pan ganiateir i stociau o gynhyrchion barhau i gael eu labelu fel E 960 glycosidau stefiol, neu fel eu bod yn cynnwys E960 glycosidau stefiol. Caniateir i stociau sy’n cael eu labelu o fewn yr amserlen honno gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau hynny wedi eu dihysbyddu.

Gwneir Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn (rheoliad 5 ac Atodlen 3) hefyd drwy arfer pwerau yn EUR 2008/1331. Mae rheoliad 5 ac Atodlen 3 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu yn Atodiad 1 i Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd (EUR 2008/1334). Mae’r diwygiadau hyn yn darparu ar gyfer awdurdodi, o ran Cymru, roi ar y farchnad a defnyddio’r cyflasyn bwyd 3-(1-((3,5-deumethylisocsasol-4-yl)methyl)-1H-pyrasol-4-yl)-1-(3-hydrocsybensyl)imidasolidin-2,4-dion.

Gwneir Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn (rheoliad 6 ac Atodlenni 4 a 5) drwy arfer pwerau yn Rheoliad (EU) 2015/2283 ar fwydydd newydd (EUR 2015/2283). Mae rheoliad 6 ac Atodlenni 4 a 5 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd (EUR 2017/2470):

  • Mae Atodlen 4 yn amnewid y cofnod ar gyfer burum pobi sydd wedi ei drin ag UV (Saccharomyces cerevisiae), gan ymestyn y categorïau bwyd penodedig y mae’r bwyd newydd hwnnw wedi ei awdurdodi ar eu cyfer.

  • Mae Atodlen 5 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad bowdr madarch fitamin D2 newydd fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 7, 8 a 9) yn cynnwys mân gywiriadau i is-offerynnau Cymreig amrywiol ar gyfraith bwyd a chyfraith bwyd anifeiliaid. Gwneir rheoliadau 7 ac 8 drwy arfer pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16). Gwneir rheoliad 9 drwy arfer pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 (p. 40).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.