xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Awdurdodi Ychwanegion Bwyd

Diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008

2.  Mae Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd(1) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlen 1.

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012

3.  Mae Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(2) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlen 2.

Darpariaeth drosiannol

4.—(1Caniateir i unrhyw ychwanegyn bwyd neu fwyd a labelir cyn diwedd 14 Tachwedd 2024 fel E 960 glycosidau stefiol, neu fel eu bod yn cynnwys E 960 glycosidiau stefiol, sydd fel arall yn cydymffurfio â’r amodau defnyddio a’r fanyleb ar gyfer E 960a glycosidau stefiol o Stevia, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau wedi eu dihysbyddu.

(2Mae i’r ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir ym mharagraff (1) sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.

(1)

EUR 2008/1333, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/860. Diwygiwyd O.S. 2019/860 gan O.S. 2020/1504.

(2)

EUR 2012/231, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/860.