Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Newid Rhestrau Lleol

Dehongli Rhan 2

3.—(1Yn y Rhan hon—

ystyr “cadarnhad” (“confirmation”) yw cadarnhad o dan reoliad 7(1)(c);

ystyr “Cronfa Gyfunol Cymru” (“Welsh Consolidated Fund”) yw’r gronfa a sefydlwyd gan adran 117 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).

mae i “cynnig anghyflawn” (“incompleteproposal”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(1);

mae i “gwiriad” (“check”), fel y mae’n gymwys i hereditament, yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

mae i “manylion seiliau’r cynnig” (“particulars of the grounds of the proposal”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11(4)(b);

ystyr “newid perthnasol mewn amgylchiadau” (“material change of circumstances”), fel y mae’n gymwys i hereditament, yw newid mewn unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 2(7) o Atodlen 6(2) i’r Ddeddf;

ystyr “porth electronig yr SP” (“VO’s electronic portal”) yw’r cyfleuster ar-lein a ddarperir gan yr SP ar gyfer yr awdurdod y caiff y rhestr ei llunio a’i chadw ar ei gyfer i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â chynigion ar gyfer newid rhestr a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;

ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr leol a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;

ystyr “seiliau’r apêl” (“grounds of the appeal”) yw’r sail neu’r seiliau yn rheoliad 24(2) y gwneir apêl arni neu arnynt;

ystyr “seiliau’r cynnig” (“grounds of the proposal”) yw’r sail neu’r seiliau yn rheoliad 4(1) y gwneir cynnig arni neu arnynt.

(2Yn y Rhan hon, mae cynnig “wedi ei benderfynu”—

(a)os yw wedi ei dynnu’n ôl o dan reoliad 21,

(b)os yw wedi ei drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl o dan reoliad 22, neu

(c)os rhoddir penderfyniad o dan reoliad 20 neu 23 sy’n gymwys i’r cynnig.

Amgylchiadau y caniateir i gynigion gael eu gwneud oddi tanynt

4.—(1Y seiliau dros wneud cynnig yw—

(a)bod y gwerth ardrethol a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr;

(b)bod y gwerth ardrethol a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir oherwydd newid perthnasol mewn amgylchiadau a ddigwyddodd ar neu ar ôl y diwrnod y lluniwyd y rhestr;

(c)bod y gwerth ardrethol a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir oherwydd diwygiad i’r dosbarthiadau o beiriannau a pheirianwaith a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000(3) sy’n dod i rym ar neu ar ôl y diwrnod y lluniwyd y rhestr;

(d)bod y gwerth ardrethol a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir neu wedi bod yn anghywir oherwydd newid a wnaed gan SP;

(e)bod y gwerth ardrethol neu unrhyw wybodaeth arall a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir neu wedi bod yn anghywir, oherwydd penderfyniad—

(i)gan TPC,

(ii)gan dribiwnlys prisio, neu

(iii)gan yr Uwch Dribiwnlys neu lys yn penderfynu ar apêl neu gais am adolygiad oddi wrth TPC neu’r Uwch Dribiwnlys,

ynghylch hereditament arall;

(f)bod y diwrnod y mae’r rhestr yn dangos bod newid yn cael effaith yn anghywir;

(g)y dylai hereditament sydd heb ei ddangos yn y rhestr gael ei ddangos yn y rhestr honno;

(h)na ddylai hereditament sydd wedi ei ddangos yn y rhestr gael ei ddangos yn y rhestr honno;

(i)y dylai’r rhestr ddangos bod rhyw ran o hereditament a ddangosir yn y rhestr yn eiddo domestig neu wedi ei esemptio rhag ardrethu annomestig ond nad yw’n gwneud hynny;

(j)na ddylai’r rhestr ddangos bod rhyw ran o hereditament a ddangosir yn y rhestr yn eiddo domestig neu wedi ei esemptio rhag ardrethu annomestig ond ei bod yn gwneud hynny;

(k)y dylai eiddo a ddangosir yn y rhestr fel mwy nag un hereditament gael ei ddangos fel un neu fwy o hereditamentau gwahanol;

(l)y dylai eiddo a ddangosir yn y rhestr fel un hereditament gael ei ddangos fel mwy nag un hereditament;

(m)bod y cyfeiriad a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir;

(n)bod y disgrifiad a ddangosir yn y rhestr ar gyfer hereditament yn anghywir;

(o)bod unrhyw ddatganiad y mae’n ofynnol ei wneud am yr hereditament o dan adran 42 o’r Ddeddf wedi ei hepgor o’r rhestr.

(2Caniateir i gynnig gael ei wneud—

(a)gan PB sydd â rheswm i gredu bod un o’r seiliau a nodir ym mharagraff (1) yn bodoli;

(b)gan berson, heblaw PB, mewn perthynas â hereditament—

(i)sydd â rheswm i gredu bod un o’r seiliau a nodir ym mharagraff (1) yn bodoli,

(ii)sydd â rheswm i gredu bod y sail yn ymwneud ag unrhyw amser pan oedd y person yn PB mewn perthynas â’r hereditament hwnnw,

(iii)a wnaeth gais fel PB o dan reoliad 6(2), a

(iv)a gydymffurfiodd a rheoliad 7 (boed fel PB ai peidio);

(c)gan berson, heblaw PB—

(i)sydd â rheswm i gredu bod sail a nodir ym mharagraff (1)(c), (d) neu (f) yn bodoli, a

(ii)a oedd yn PB unrhyw bryd pan oedd y newid neu’r diwygiad o dan sylw yn effeithiol.

(3Ond ni chaniateir i gynnig gael ei wneud—

(a)drwy gyfeirio at fwy nag un sail oni bai, ar gyfer pob sail y dibynnir arni, fod y diwrnod perthnasol a’r dyddiad cael effaith yr un fath;

(b)gan—

(i)PB, pan fo’r person hwnnw (neu berson sydd â chysylltiad cymwys â’r person hwnnw), gan weithredu yn yr un swyddogaeth, wedi gwneud cynnig i newid yr un rhestr mewn perthynas â’r un hereditament ar yr un sail ac yn deillio o’r un digwyddiad;

(ii)person a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) neu (c), pan fo’r person hwnnw (neu berson sydd â chysylltiad cymwys â’r person hwnnw), gan weithredu yn y swyddogaeth honno neu gan weithredu fel PB, wedi gwneud cynnig i newid yr un rhestr mewn perthynas â’r un hereditament ar yr un sail ac yn deillio o’r un digwyddiad;

(iii)PB neu berson a grybwyllir ym mharagraff 2(b) neu (c), pan fo cynnig i newid y rhestr mewn perthynas â’r un hereditament ac sy’n deillio o’r un ffeithiau wedi ei wneud gan berson arall (ac eithrio person sydd â chysylltiad cymwys â’r PB) ac wedi ei benderfynu gan TPC neu’r Uwch Dribiwnlys;

(c)ar y sail a nodir ym mharagraff (1)(d), i’r graddau bod y newid wedi ei wneud o ganlyniad i gynnig blaenorol yn ymwneud â’r hereditament hwnnw neu ei fod yn rhoi effaith i benderfyniad gan TPC, yr Uwch Dribiwnlys neu lys yn penderfynu ar apêl neu gais am adolygiad mewn perthynas â’r hereditament o dan sylw.

(4Ym mharagraff (3)—

ystyr “digwyddiad” (“event”) yw llunio’r rhestr, newid perthnasol mewn amgylchiadau neu newid y rhestr gan yr SP;

ystyr “diwrnod perthnasol” (“material day”), mewn perthynas â hereditament, yw’r diwrnod a bennir o ran yr hereditament hwnnw o dan reolau a ragnodir gan reoliadau o dan baragraff 2(6A) o Atodlen 6 i’r Ddeddf;

ystyr “dyddiad cael effaith” (“effective date”) yw’r diwrnod y byddai’r newid, pe bai’n cael ei wneud, yn cael effaith o dan y Rhan hon.

Gwirio gwybodaeth am hereditament

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), ni chaiff person wneud cynnig oni bai bod gwiriad gwybodaeth am yr hereditament wedi ei gwblhau (“gwiriad”).

(2Mae gwiriad yn cynnwys y camau yn rheoliadau 6 i 10.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae gwiriad mewn perthynas â hereditament wedi ei gwblhau—

(a)ar y dyddiad y mae’r SP yn cyflwyno hysbysiad o dan reoliad 10(1); neu

(b)ar y dyddiad y cymerir bod y gwiriad wedi ei gwblhau o dan reoliad 10(3).

(4Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys pan—

(a)ar ddiwrnod (“y diwrnod creu”) sy’n dod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bo hereditament (“hereditament newydd”) yn dod i fodolaeth oherwydd—

(i)bod eiddo a ardrethid fel hereditament sengl o’r blaen yn dod yn agored i gael ei ardrethu fesul rhan,

(ii)bod eiddo a ardrethid fesul rhan o’r blaen yn dod yn agored i gael ei ardrethu fel hereditament sengl,

(iii)bod hereditament neu unrhyw ran o hereditament yn dod yn rhan o hereditament gwahanol, a

(b)ar neu ar ôl y diwrnod creu, bo unrhyw hereditament y ffurfiwyd hereditament newydd ohono yn gyfan gwbl neu’n rhannol (“hereditament hanesyddol”) wedi ei ddangos mewn rhestr.

(5Pan fo paragraff (4) yn gymwys—

(a)at ddiben paragraff (1), bernir bod gwiriad mewn perthynas â hereditament newydd wedi ei gwblhau pan fo gwiriad wedi ei gwblhau ar neu ar ôl y diwrnod creu mewn perthynas â phob hereditament hanesyddol, a

(b)at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gwiriad wedi ei gwblhau mewn perthynas â hereditament newydd ar—

(i)y dyddiad y mae’r SP yn cyflwyno hysbysiad o dan reoliad 10(1) mewn perthynas â’r hereditament hanesyddol terfynol, neu

(ii)y dyddiad y cymerir bod y gwiriad mewn perthynas â’r hereditament hanesyddol terfynol wedi ei gwblhau o dan reoliad 10(3).

(6Ym mharagraff (5)(b), ystyr “hereditament hanesyddol terfynol” yw’r hereditament hanesyddol terfynol y mae gwiriad wedi ei gwblhau mewn perthynas ag ef fel y’i nodwyd ym mharagraff (5)(a).

Cais am wybodaeth a gedwir gan yr SP

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson a grybwyllir yn rheoliad 4(2)(a) neu (c).

(2Cyn gwneud cynnig, rhaid i’r person ofyn i’r SP am wybodaeth sydd gan yr SP am yr hereditament.

(3Ar ôl cael cais am wybodaeth o dan baragraff (2), rhaid i’r SP ddarparu’r wybodaeth honno i’r person—

(a)os yw’r wybodaeth yn ymwneud yn rhesymol ag unrhyw un neu ragor o’r seiliau a nodir yn rheoliad 4, a

(b)os yw’r SP o’r farn ei bod yn rhesymol darparu’r wybodaeth honno i’r person.

(4Wrth ddarparu gwybodaeth i’r person o dan baragraff (3), os yw’r SP heb unrhyw wybodaeth ffeithiol am yr hereditament, caiff yr SP ofyn i’r person ddarparu’r wybodaeth sydd yn eisiau i’r SP.

(5Rhaid i’r person ofyn am wybodaeth neu ddarparu gwybodaeth o dan y rheoliad hwn—

(a)drwy ddefnyddio porth electronig yr SP, neu

(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda’r SP.

Cadarnhau bod gwybodaeth yn gywir

7.—(1Ar ôl cael gwybodaeth am yr hereditament a ddarparwyd gan yr SP mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(2), rhaid i’r person—

(a)os oes unrhyw ran o’r wybodaeth honno’n anghywir, ddarparu’r wybodaeth gywir i’r SP,

(b)os yw’r SP wedi gofyn i’r person o dan reoliad 6(4) ddarparu unrhyw wybodaeth ffeithiol sydd yn eisiau i’r SP, ddarparu’r wybodaeth sydd yn eisiau i’r SP, ac

(c)cadarnhau i’r SP—

(i)pa ran o’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr SP o dan reoliad 6(3) sy’n gywir, a

(ii)bod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan y person o dan is-baragraff (a) neu (b) yn gywir.

(2Rhaid i gadarnhad ac unrhyw wybodaeth a ddarperir gan berson o dan baragraff (1) gael eu darparu—

(a)drwy ddefnyddio porth electronig yr SP, neu

(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda’r SP.

Cydnabod bod cadarnhad wedi dod i law

8.—(1Ar ôl cael cadarnhad, fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(1)(c), rhaid i’r SP gyflwyno i’r person a wnaeth y cadarnhad gydnabyddiaeth ysgrifenedig bod y cadarnhad wedi dod i law a rhaid iddi nodi—

(a)y dyddiad y cafodd yr SP y cadarnhad, a

(b)dyddiad y gydnabyddiaeth.

(2Yn y Rheoliadau hyn, y dyddiad y cafodd yr SP gadarnhad yw’r dyddiad a nodir yn y gydnabyddiaeth yn unol â pharagraff (1)(a).

Cwblhau gwiriad

9.  Ar ôl cael unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan reoliad 7(1)(a) neu (b), rhaid i’r SP—

(a)penderfynu a yw’r wybodaeth honno’n gywir ynteu’n anghywir,

(b)newid y rhestr i gywiro unrhyw anghywirdeb mewn perthynas â’r canlynol—

(i)gwerth ardrethol yr hereditament, neu

(ii)unrhyw wybodaeth arall a ddangosir yn y rhestr am yr hereditament, ac

(c)diweddaru unrhyw wybodaeth arall a gedwir gan yr SP am yr hereditament er mwyn cywiro unrhyw anghywirdeb.

Hysbysu bod gwiriad wedi ei gwblhau

10.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r camau yn rheoliadau 6 i 9 gael eu cymryd mewn perthynas â hereditament, rhaid i’r SP gyflwyno i’r person a wnaeth y cais o dan reoliad 6(2) hysbysiad yn nodi bod gwiriad wedi ei gwblhau mewn perthynas â’r hereditament.

(2Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad;

(b)enw’r person;

(c)dynodiad yr hereditament;

(d)manylion unrhyw newid a wnaed gan yr SP i’r rhestr o ganlyniad i’r gwiriad;

(e)crynodeb o unrhyw newidiadau a wnaed gan yr SP yn sgil gwirio’r wybodaeth sydd gan yr SP am yr hereditament;

(f)datganiad o hawl y person i wneud cynnig.

(3Pan nad yw SP wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) cyn diwedd—

(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd yr SP gadarnhad, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach y cytunir arno mewn ysgrifen gan yr SP a’r person,

bernir bod gwiriad wedi ei gwblhau ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Cynigion: cyffredinol

11.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 12, rhaid i gynnig ynghylch hereditament gael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblhawyd gwiriad mewn perthynas â’r hereditament.

(2Rhaid i gynnig gael ei wneud drwy ei gyflwyno i’r SP—

(a)drwy ddefnyddio porth electronig yr SP, neu

(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda’r SP.

(3Y dyddiad y mae cynnig wedi ei wneud yw’r dyddiad y mae’n cael ei gyflwyno i’r SP.

(4Rhaid i gynnig gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y cynigydd,

(b)seiliau’r cynnig gan gynnwys y manylion y seilir pob un o’r seiliau arnynt (“manylion seiliau’r cynnig”),

(c)manylion y newid arfaethedig i’r rhestr,

(d)y dyddiad y mae’r cynigydd yn haeru y dylai’r newid arfaethedig gael effaith,

(e)y dyddiad y cyflwynir y cynnig i’r SP,

(f)tystiolaeth i ategu seiliau’r cynnig, ac

(g)datganiad ynghylch sut y mae’r dystiolaeth yn ategu seiliau’r cynnig.

(5Rhaid i gynnig ynghylch hereditament (“yr hereditament”) a wneir ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(e) gynnwys hefyd—

(a)dyddiad y penderfyniad am yr hereditament arall (“y penderfyniad”),

(b)enw’r tribiwnlys neu’r llys a wnaeth y penderfyniad,

(c)gwybodaeth i adnabod yr hereditament arall,

(d)y rhesymau y mae’r cynigydd yn credu bod y penderfyniad yn berthnasol i’r gwerth ardrethol neu i wybodaeth arall a ddangosir yn y rhestr ar gyfer yr hereditament, ac

(e)y rhesymau y mae’r cynigydd yn credu, oherwydd y penderfyniad, fod y gwerth ardrethol neu wybodaeth arall a ddangosir yn y rhestr ar gyfer yr hereditament yn anghywir.

(6Os gwneir cynnig ar un neu ragor o’r seiliau a nodir yn rheoliad 4(1)(a) i (g) ac (i) i (l) a bod yr hereditament wedi ei feddiannu o dan les, hawddfraint neu drwydded i feddiannu (neu, pan fo is-baragraff (c) yn gymwys, wedi ei feddiannu felly), rhaid i’r cynnig gynnwys hefyd—

(a)pan fo’r cynigydd yn feddiannydd, y swm sy’n daladwy bob blwyddyn gan y cynigydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig, mewn cysylltiad â’r les, yr hawddfraint neu’r drwydded i feddiannu, y dyddiad y daeth y swm hwnnw’n daladwy gyntaf a manylion unrhyw gyfnodau di-rent;

(b)pan nad yw’r cynigydd yn feddiannydd ond ei fod yn PB mewn perthynas â’r hereditament hwnnw, y swm sy’n daladwy bob blwyddyn i’r cynigydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig, mewn cysylltiad â’r les, yr hawddfraint neu’r drwydded i feddiannu, y dyddiad y daeth y swm hwnnw’n daladwy gyntaf a manylion unrhyw gyfnodau di-rent;

(c)pan nad yw’r cynigydd yn PB mewn perthynas â’r hereditament hwnnw, y swm a oedd yn daladwy bob blwyddyn gan y cynigydd neu i’r cynigydd (yn ôl y digwydd), ar y diwrnod olaf yr oedd y cynigydd yn PB o’r fath, mewn cysylltiad â’r les, yr hawddfraint neu’r drwydded i feddiannu, y dyddiad y daeth y swm hwnnw’n daladwy gyntaf a manylion unrhyw gyfnodau di-rent.

(7Ni chaiff cynnig ymdrin â mwy nag un hereditament ond—

(a)os caiff ei wneud ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(k) neu (l), neu

(b)pan fo’r person sy’n gwneud y cynnig yn gwneud hynny yn yr un swyddogaeth mewn perthynas â phob hereditament a bod pob hereditament o fewn yr un adeilad neu’r un cwrtil.

(8Caniateir i gynnig a wneir ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(d) neu (f) gynnwys cais am y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)adfer y rhestr i’w chyflwr cyn i’r newid gael ei wneud;

(b)newid pellach i’r rhestr mewn perthynas â’r hereditament.

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10) ac (11), ni chaiff person ond gwneud cynnig i newid rhestr os yw wedi darparu cadarnhad i’r SP cyn y diwrnod y caiff y rhestr nesaf ei llunio.

(10Ni chaiff person ond gwneud cynnig i newid rhestr ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(d) neu (f) os yw wedi darparu cadarnhad i’r SP cyn—

(a)y diwrnod y caiff y rhestr nesaf ei llunio, neu

(b)diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad y newid,

pa un bynnag sydd ddiweddaraf.

(11Ni chaiff person ond gwneud cynnig i newid rhestr ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(e) os yw wedi darparu cadarnhad i’r SP cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y rhestr nesaf ei llunio.

Cynigion a wneir ar y sail yn rheoliad 4(1)(b)

12.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i gynnig a wneir ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(b) os yw’r sail yn ymwneud â newid perthnasol mewn amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(7)(d) neu (e) o Atodlen 6 i’r Ddeddf.

(2Caniateir i’r cynnig gael ei wneud erbyn y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod olaf yn y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblhawyd gwiriad mewn perthynas â’r hereditament;

(b)y diwrnod olaf yn y cyfnod o 16 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd yr SP gadarnhad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caniateir i berson wneud un cynnig yn unig ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(b) mewn perthynas â phob newid perthnasol mewn amgylchiadau.

(4Caniateir i berson wneud un cynnig ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(b) mewn perthynas â mwy nag un newid perthnasol mewn amgylchiadau—

(a)os yw’r diwrnod perthnasol yr un fath ar gyfer pob newid perthnasol mewn amgylchiadau, a

(b)os yw’r dyddiad cael effaith yr un fath ar gyfer pob newid perthnasol mewn amgylchiadau;

(c)ym mharagraff 4(a) a (b), mae i “dyddiad cael effaith” a “diwrnod perthnasol” yr ystyr a roddir gan reoliad 4(4).

(5Os yw person wedi darparu gwybodaeth i’r SP o dan reoliad 7(1)(a) neu (b) mewn perthynas â newid perthnasol mewn amgylchiadau ond nad yw’n gwneud cynnig o fewn y cyfnod yn rheoliad 11(1), neu os yw’n gymwys, y cyfnod ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, ni chaiff y person wneud cynnig mewn perthynas â’r newid perthnasol hwnnw mewn amgylchiadau.

Cydnabyddiaeth yr SP o gynigion

13.—(1O fewn 28 o ddiwrnodau i gael cynnig, rhaid i’r SP anfon cydnabyddiaeth ei fod wedi ei gael at y cynigydd.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i gynnig anghyflawn.

(3Rhaid i gydnabyddiaeth o dan baragraff (1) bennu’r dyddiad y daeth y cynnig i law a rhaid cael datganiad o effaith rheoliadau 15 i 26 i gyd-fynd â hi.

Cynigion anghyflawn

14.—(1Rhaid i’r SP wrthod cynnig (“cynnig anghyflawn”) nad yw’n cynnwys y materion a bennir—

(a)yn rheoliad 11(4), a

(b)os yw’n gymwys, yn rheoliad 11(5) a (6).

(2Wrth wrthod cynnig anghyflawn, rhaid i SP gyflwyno i’r cynigydd hysbysiad gwrthod sy’n pennu—

(a)yr wybodaeth sydd yn eisiau, a

(b)dyddiad cyflwyno’r hysbysiad.

(3Os gwrthodir cynnig anghyflawn, heblaw cynnig a wneir ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(b) pan fo’r sail yn ymwneud â newid perthnasol mewn amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(7)(d) neu (e) o Atodlen 6 i’r Ddeddf, caiff y cynigydd wneud cynnig pellach o fewn y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblhawyd gwiriad mewn perthynas â’r hereditament.

(4Os gwrthodir cynnig anghyflawn a wneir ar y sail a nodir yn rheoliad 4(1)(b) pan fo’r sail yn ymwneud â newid perthnasol mewn amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(7)(d) neu (e) o Atodlen 6 i’r Ddeddf, caiff y cynigydd wneud cynnig pellach erbyn y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod olaf yn y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblhawyd gwiriad mewn perthynas â’r hereditament, a

(b)y diwrnod olaf yn y cyfnod o 16 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd yr SP gadarnhad.

(5Wrth gyfrifo’r cyfnod ym mharagraff (3) neu (4), mae’r diwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y cynnig anghyflawn ac sy’n dod i ben ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad gwrthod i’w hanwybyddu.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys pan gyflwynir ail hysbysiad gwrthod neu hysbysiad gwrthod dilynol mewn perthynas â’r cynnig pellach.

Y weithdrefn ar ôl i gynnig gael ei wneud

15.—(1Rhaid i’r SP, o fewn y cyfnod o 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r SP yn cael cynnig, gyflwyno copi o’r cynnig i’r trethdalwr ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai mai’r trethdalwr yw’r cynigydd.

(2Ym mharagraff (1), nid yw’r cyfeiriad at y dyddiad y mae’r SP yn cael cynnig yn cynnwys cyfeiriad at y dyddiad y mae’r SP yn cael cynnig anghyflawn.

(3Rhaid i gopi o gynnig a gyflwynir i drethdalwr gael datganiad o effaith rheoliadau 20 i 26 i gyd-fynd ag ef.

(4Rhaid i’r SP ddarparu i’r awdurdod perthnasol yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) o fewn y cyfnod o 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad—

(a)y caiff yr SP y cynnig, a

(b)y penderfynir ar y cynnig.

(5Yr wybodaeth yw—

(a)dynodiad yr hereditament;

(b)y dyddiad y gwnaed y cynnig mewn perthynas â’r hereditament;

(c)gwerth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ar y dyddiad y rhoddir yr wybodaeth i’r awdurdod perthnasol;

(d)y newid arfaethedig;

(e)y dyddiad y mae’r cynigydd yn haeru y dylai’r newid arfaethedig gael effaith;

(f)a yw’r cynnig wedi ei benderfynu ai peidio.

(6Caiff yr awdurdod perthnasol ddarparu tystiolaeth i’r SP sy’n ymwneud â’r cynnig, ac os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid i’r SP ddarparu copi o’r dystiolaeth honno i’r cynigydd, a

(b)caiff y cynigydd ddarparu tystiolaeth bellach i’r SP mewn ymateb i’r dystiolaeth honno.

(7Ar ôl cael y cynnig, pan fo’r SP o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny, rhaid i’r SP ddarparu i’r cynigydd unrhyw wybodaeth sydd gan yr SP sy’n ymwneud â manylion seiliau’r cynnig.

(8Cyn i’r cynnig gael ei benderfynu, caiff y cynigydd, mewn ymateb i unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (7), ddarparu tystiolaeth bellach i’r SP i ategu seiliau’r cynnig.

(9Cyn i’r SP benderfynu ar y cynnig, os caiff yr SP unrhyw wybodaeth bellach sy’n ymwneud â manylion seiliau’r cynnig—

(a)pan fo’r SP o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny, rhaid i’r SP ddarparu’r wybodaeth honno i’r cynigydd;

(b)caiff y cynigydd ddarparu tystiolaeth bellach i’r SP mewn ymateb i’r wybodaeth honno.

(10Cyn i’r cynnig gael ei benderfynu, caiff y cynigydd ddarparu tystiolaeth bellach i’r SP sy’n ymwneud â seiliau’r cynnig os nad oedd y dystiolaeth honno yn hysbys i’r cynigydd ac na allai’r cynigydd fod wedi ei sicrhau yn rhesymol cyn i’r cynnig gael ei wneud.

(11Caiff y cynigydd a’r SP gytuno mewn ysgrifen y caiff y cynigydd ddarparu tystiolaeth bellach o dan amgylchiadau nas crybwyllir ym mharagraffau (6) i (10).

(12Mae unrhyw dystiolaeth a ddarperir gan y cynigydd o dan y rheoliad hwn yn rhan o’r cynnig a rhaid ei darparu i’r SP—

(a)drwy ddefnyddio porth electronig yr SP, neu

(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda’r SP.

Gosod cosb Rhan 2

16.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gynnig a wneir gan berson mewn perthynas â hereditament.

(2Caiff yr SP osod cosb ariannol ar y person hwnnw—

(a)os yw’r person yn darparu gwybodaeth i’r SP yn y cynnig, neu mewn cysylltiad â’r cynnig, sy’n anwir o ran manylyn perthnasol, a

(b)os yw’r person yn gwneud hynny’n fwriadol, yn ddi-hid neu’n ddiofal.

(3Y gosb sy’n daladwy yw £200.

(4Os yw’r SP yn gosod cosb o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r SP gyflwyno hysbysiad i’r person (“hysbysiad cosb”) yn datgan—

(a)bod cosb Rhan 2 wedi ei gosod;

(b)y dyddiad y cafodd y gwiriad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef ei gwblhau mewn perthynas â’r hereditament;

(c)y dyddiad y gwnaed y cynnig;

(d)y dyddiad y penderfynwyd ar y cynnig (os yw wedi ei benderfynu);

(e)yr wybodaeth y cafwyd ei bod yn anwir;

(f)y dyddiad y darparwyd yr wybodaeth;

(g)y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad cosb;

(h)swm y gosb;

(i)hawl y person i apelio i TPC o dan reoliad 18.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth mewn cysylltiad â’r cynnig” yw’r wybodaeth a ganlyn a ddarperir gan berson fel rhan o’r gwiriad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef—

(a)cadarnhad;

(b)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y person o dan reoliad 7(1)(a) neu (b).

Talu cosb Rhan 2

17.—(1Rhaid i unrhyw swm sy’n dod i law’r SP ar ffurf cosb Rhan 2 gael ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

(2Caiff yr SP adennill unrhyw gosb Rhan 2 sydd heb ei thalu fel dyled sifil sy’n ddyledus i’r SP.

(3Ni chaniateir i hawliad i adennill cosb Rhan 2 gael ei wneud—

(a)tan ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 18, neu

(b)os gwneir apêl o dan reoliad 18, hyd nes y penderfynir ar yr apêl.

(4Caiff yr SP ddileu cosb Rhan 2 yn llawn.

(5Os bydd yr SP yn dileu cosb Rhan 2, rhaid i’r SP ad-dalu unrhyw swm a dalwyd mewn cysylltiad â’r gosb honno.

Apelio yn erbyn gosod cosb Rhan 2

18.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os oes hysbysiad cosb wedi ei gyflwyno i berson o dan reoliad 16(4).

(2Caiff y person apelio i TPC yn erbyn gosod y gosb.

(3Rhaid i apêl gael ei gwneud drwy gyflwyno hysbysiad apêl i TPC—

(a)drwy ddefnyddio porth electronig TPC, neu

(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda TPC.

(4Rhaid i’r person gyflwyno’r hysbysiad apêl i TPC fel ei fod yn dod i law o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad cosb i’r person.

(5Rhaid i hysbysiad apêl nodi—

(a)mai apêl yn erbyn gosod y gosb yw hi;

(b)y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad cosb i’r person.

(6Rhaid i hysbysiad apêl gael copi o’r hysbysiad cosb i gyd-fynd ag ef.

(7Os yw’r person yn cyflwyno’r hysbysiad apêl i TPC yn hwyrach na’r amser ar gyfer gwneud yr apêl a bennir yn y rheoliad hwn, rhaid i’r hysbysiad apêl gynnwys cais am estyniad amser sy’n nodi’r rheswm pam na chyflwynwyd yr hysbysiad apêl mewn pryd.

(8Er gwaethaf paragraff (4), caiff y Llywydd awdurdodi ystyried apêl pan fo’r Llywydd wedi ei fodloni bod methiant y person sydd wedi ei dramgwyddo i gychwyn yr apêl fel y darperir ar ei gyfer gan y rheoliad hwn wedi codi o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

Yr effaith ar yr amserlen ar gyfer penderfynu ar gynnig

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r penderfyniad ar gynnig os gosodir cosb Rhan 2 cyn y penderfynir ar y cynnig.

(2Ni chaiff yr SP benderfynu ar y cynnig tan ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 18.

(3Os gwneir apêl o dan reoliad 18 yn erbyn gosod y gosb, ni chaiff yr SP benderfynu ar y cynnig nes bod TPC wedi penderfynu ar yr apêl.

Cynigion y mae’r SP yn cytuno arnynt

20.  Pan fo’r SP yn penderfynu bod sail gadarn i gynnig, rhaid i’r SP cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw—

(a)newid y rhestr yn unol â hynny, a

(b)cyflwyno hysbysiad o’r penderfyniad—

(i)i’r cynigydd, a

(ii)os nad y cynigydd yw’r trethdalwr, i’r trethdalwr.

Tynnu cynigion yn ôl

21.—(1Caiff y cynigydd dynnu’r cynnig yn ôl drwy hysbysiad a anfonir at yr SP.

(2Ond—

(a)pan oedd y cynigydd yn drethdalwr mewn cysylltiad â’r hereditament ar ddyddiad y cynnig ond nad yw bellach, neu

(b)pan wnaed y cynnig gan berson a grybwyllir yn rheoliad 4(2)(b),

ni chaniateir tynnu’r cynnig yn ôl oni bai bod y person sy’n drethdalwr ar hyn o bryd yn cytuno mewn ysgrifen.

(3Pan—

(a)o fewn dau fis ar ôl y diwrnod y caiff yr SP gynnig—

(i)bo SP, neu

(ii)bo person (“P”) a oedd yn PB ar y dyddiad y cafodd yr SP y cadarnhad ar gyfer y gwiriad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef,

yn hysbysu’r SP mewn ysgrifen fod y PB neu P yn dymuno bod yn barti i’r achos mewn cysylltiad â’r cynnig hwnnw, a

(b)ar ôl i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i law, y tynnir yr hysbysiad yn ôl,

rhaid i’r SP roi hysbysiad ei fod wedi ei dynnu’n ôl i’r PB neu i P.

(4Pan fo’r PB neu P yn hysbysu’r SP mewn ysgrifen, o fewn 42 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y mae’r PB neu P yn cael hysbysiad yr SP o dan baragraff (3), fod y PB neu P wedi ei dramgwyddo drwy dynnu’r cynnig yn ôl—

(a)rhaid i’r hysbysiad, pe bai’r PB ar ddyddiad y cynnig wedi bod yn gymwys i wneud y cynnig hwnnw, gael ei drin ar gyfer y darpariaethau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn fel pe bai wedi bod yn gynnig yn yr un telerau a wnaed ar y diwrnod y cafodd yr SP yr hysbysiad, a

(b)rhaid i unrhyw newid sy’n deillio o hynny gael effaith o’r diwrnod a fyddai wedi bod yn gymwys pe na bai’r cynnig wedi ei dynnu’n ôl o dan y rheoliad hwn.

(5Wrth ystyried o dan baragraff (4)(a) a fyddai PB neu P wedi bod yn gymwys ar ddyddiad cynnig i wneud y cynnig hwnnw, diystyrir y gofynion yn rheoliadau 5(1) a 6(2).

Newidiadau y cytunir arnynt yn dilyn cynigion

22.—(1Pan fo’r holl bersonau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn cytuno, ar ôl i gynnig gael ei wneud, ar newid yn y rhestr sy’n cydymffurfio â gofynion y Rhan hon ond sy’n wahanol i’r rhai a gynhwysir yn y cynnig, a bod y cytundeb hwnnw wedi ei ddynodi mewn ysgrifen—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r SP, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gwnaed y cytundeb, newid y rhestr er mwyn rhoi effaith i’r cytundeb, a

(b)rhaid trin y cynnig fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)yr SP;

(b)y cynigydd;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), meddiannydd (ar ddyddiad y cynnig) unrhyw hereditament y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef;

(d)y trethdalwr (ar ddyddiad y cytundeb) mewn perthynas ag unrhyw hereditament y mae’n ymwneud ag ef;

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw PB—

(i)a fyddai, ar ddyddiad y cynnig, wedi bod yn gymwys i wneud y cynnig o dan sylw, a

(ii)sydd, heb fod yn hwyrach na dau fis ar ôl y diwrnod y cafodd yr SP y cynnig, yn hysbysu’r SP mewn ysgrifen fod y PB yn dymuno bod yn barti i’r achos mewn cysylltiad â’r cynnig;

(f)unrhyw berson (“P”)—

(i)a oedd yn PB ar y dyddiad y cafodd yr SP y cadarnhad ar gyfer y gwiriad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef ac a fyddai, ar y dyddiad hwnnw, wedi bod yn gymwys i wneud y cynnig, a

(ii)sydd, heb fod yn hwyrach na dau fis ar ôl y diwrnod y cafodd yr SP y cynnig, yn hysbysu’r SP mewn ysgrifen fod P yn dymuno bod yn barti i’r achos mewn cysylltiad â’r cynnig.

(3Nid yw’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—

(a)meddiannydd yr hereditament ar ddyddiad y cynnig nad yw’n meddiannu unrhyw ran ohono mwyach ar y dyddiad y mae’r holl bersonau eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi cytuno fel y crybwyllir ym mharagraff (1), ar yr amod bod yr SP wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod lle mae’r cyn-feddiannydd hwnnw, ac nad yw hynny wedi ei ganfod, neu

(b)unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(e) neu (f) na ellir cysylltu ag ef yn y cyfeiriad a roddwyd i’r SP.

(4Wrth ystyried o dan baragraff (2)(e)(i) neu (f)(i) a fyddai person wedi bod yn gymwys ar ddyddiad cynnig i wneud y cynnig hwnnw, diystyrir y gofynion yn rheoliadau 5(1) a 6(2).

(5Pan—

(a)byddai’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yn dod i ben cyn y cyfnod o ddau fis a grybwyllir ym mharagraff (2)(e)(ii), a

(b)nad yw’r SP wedi cael cais o dan baragraff (2)(e)(ii) o fewn y cyfnod hwnnw o ddau fis,

rhaid i’r SP wneud y newid sy’n ofynnol gan baragraff (1)(a) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

Anghytuno ynghylch newid arfaethedig

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r SP yn penderfynu nad oes sail gadarn i gynnig, ac—

(a)nad yw’r cynnig wedi ei dynnu’n ôl o dan reoliad 21, a

(b)na chafwyd cytundeb o dan reoliad 22.

(2Rhaid i’r SP, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad mewn perthynas â chynnig o dan baragraff (1), gyflwyno hysbysiad o’r penderfyniad (“hysbysiad penderfynu”) i’r canlynol—

(a)y cynigydd;

(b)os nad y cynigydd yw’r trethdalwr, y trethdalwr;

(c)unrhyw berson a grybwyllir yn rheoliad 22(2)(e) neu (f);

(d)yr awdurdod perthnasol os yw’r awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad i’r SP ei fod yn dymuno cael copi o hysbysiad penderfynu mewn perthynas â’r canlynol—

(i)y cynnig,

(ii)unrhyw gynnig sy’n ymwneud â’r hereditament y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef, neu

(iii)dosbarth penodedig o gynnig neu ddosbarth penodedig o hereditament, a bod y cynnig neu’r hereditament y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn dod o fewn y dosbarth hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad penderfynu a gyflwynir i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) i (c) gynnwys—

(a)datganiad bod yr SP o’r farn nad oes sail gadarn i’r cynnig, bod yr SP yn anghytuno â’r newid arfaethedig i’r rhestr a bod yr SP wedi penderfynu—

(i)peidio â newid y rhestr yn unol â’r cynnig, neu

(ii)newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;

(b)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, gan gynnwys datganiad o’r dystiolaeth a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad;

(c)datganiad mewn perthynas â phob un o seiliau’r cynnig yn nodi pam nad yw’r sail, ym marn yr SP, wedi ei chyflawni, gan gynnwys crynodeb o unrhyw fanylion seiliau’r cynnig nad oedd yr SP yn cytuno â hwy;

(d)manylion am hawl y cynigydd i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(4Ond rhaid i hysbysiad penderfynu a gyflwynir i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) nad yw’n PB pan gyflwynir yr hysbysiad gynnwys—

(a)datganiad bod yr SP o’r farn nad oes sail gadarn i’r cynnig, bod yr SP yn anghytuno â’r newid arfaethedig i’r rhestr a bod yr SP wedi penderfynu—

(i)peidio â newid y rhestr yn unol â’r cynnig, neu

(ii)newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;

(b)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad penderfynu a gyflwynir i awdurdod perthnasol o dan baragraff (2)(d) gynnwys—

(a)datganiad bod yr SP o’r farn nad oes sail gadarn i’r cynnig, bod yr SP yn anghytuno â’r newid arfaethedig i’r rhestr a bod yr SP wedi penderfynu—

(i)peidio â newid y rhestr yn unol â’r cynnig, neu

(ii)newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;

(b)pan fo’r SP o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny—

(i)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, gan gynnwys datganiad o’r dystiolaeth a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad, a

(ii)datganiad mewn perthynas â phob un o seiliau’r cynnig yn nodi pam nad yw’r sail, ym marn yr SP, wedi ei chyflawni, gan gynnwys crynodeb o unrhyw fanylion seiliau’r cynnig nad oedd yr SP yn cytuno â hwy.

(6Os bydd yr SP yn penderfynu newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig, rhaid i’r SP wneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad.

Gwneud apêl i TPC

24.—(1Caiff cynigydd apelio i TPC ar y naill neu’r llall o’r seiliau neu ar y ddwy sail a nodir ym mharagraff (2)—

(a)os yw’r SP wedi penderfynu o dan reoliad 23 i beidio â newid y rhestr;

(b)os yw’r SP wedi penderfynu o dan reoliad 23 i newid y rhestr heblaw yn unol â’r cynnig;

(c)os nad yw’r SP wedi gwneud penderfyniad o dan reoliad 20 neu 23 ac—

(i)nad yw’r cynnig wedi ei dynnu’n ôl o dan reoliad 21;

(ii)nad oes cytundeb o dan reoliad 22;

(iii)bod y cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y cynnig (neu unrhyw gyfnod hirach y cytunwyd arno mewn ysgrifen gan yr SP a’r cynigydd) wedi dod i ben;

(iv)nad yw’r cynnig wedi ei wrthod o dan reoliad 14.

(2Y seiliau yw—

(a)nad yw’r prisiad ar gyfer yr hereditament yn rhesymol;

(b)bod y rhestr yn anghywir mewn perthynas â’r hereditament (heblaw mewn perthynas â’r prisiad).

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “prisiad” yw’r gwerth ardrethol fel y’i pennir o dan Atodlen 6 i’r Ddeddf.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys os gosodir cosb Rhan 2 cyn penderfynu ar gynnig.

(5Wrth gyfrifo’r cyfnod o 18 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c)(iii)—

(a)oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, rhaid i’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y gosb Rhan 2 ac sy’n dod i ben drannoeth y diwrnod y daw’r cyfnod ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 18 i ben gael ei anwybyddu;

(b)os gwneir apêl o dan reoliad 18 yn erbyn gosod y gosb Rhan 2, rhaid i’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y gosb Rhan 2 ac sy’n dod i ben drannoeth y diwrnod y penderfynir ar yr apêl o dan reoliad 18 gael ei anwybyddu.

Yr amser ar gyfer gwneud apêl i TPC

25.—(1Ni chaiff cynigydd ond gwneud apêl yn dilyn penderfyniad gan yr SP o dan reoliad 23 o fewn y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad penderfynu o dan y rheoliad hwnnw.

(2Ni chaiff cynigydd ond gwneud apêl o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 24(1)(c) o fewn y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r dyddiad—

(a)y mae’r cyfnod o 18 mis a grybwyllir yn rheoliad 24(1)(c)(iii) wedi mynd heibio, neu

(b)y mae unrhyw gyfnod hirach y cytunwyd arno o dan y rheoliad hwnnw wedi mynd heibio.

(3Er gwaethaf paragraffau (1) a (2), caiff y Llywydd awdurdodi ystyried apêl pan fo’r Llywydd wedi ei fodloni bod methiant y cynigydd i gychwyn yr apêl fel y darperir gan y rheoliad hwn wedi codi o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

Hysbysiad apêl

26.—(1Rhaid i apêl gael ei gwneud drwy gyflwyno hysbysiad apêl i TPC—

(a)drwy ddefnyddio porth electronig TPC, neu

(b)mewn modd arall y cytunir arno gyda TPC.

(2Rhaid i hysbysiad apêl—

(a)nodi seiliau’r apêl, a

(b)nodi pa fanylion seiliau’r cynnig sydd heb gael eu cytuno gyda’r SP.

(3I gyd-fynd â hysbysiad apêl rhaid cael—

(a)os oes penderfyniad wedi ei roi o dan reoliad 23, copi o’r penderfyniad hwnnw;

(b)copi o’r cynnig gan gynnwys unrhyw dystiolaeth bellach a ddarparwyd gan y cynigydd o dan reoliad 15;

(c)unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth a ddarparwyd i’r cynigydd gan yr SP o dan reoliad 15.

(4Os yw cynigydd yn cyflwyno’r hysbysiad apêl i TPC yn hwyrach na’r amser ar gyfer gwneud yr apêl a bennir yn rheoliad 25, rhaid i’r hysbysiad apêl gynnwys cais am estyniad amser sy’n nodi’r rheswm pam na chyflwynwyd yr hysbysiad apêl mewn pryd.

(5Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad apêl, rhaid i TPC anfon copi o’r hysbysiad apêl—

(a)at yr SP, a

(b)at unrhyw bartïon i’r apêl.

Yr amser y bydd y newid yn cael effaith: rhestrau 2023 a rhestrau dilynol

27.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 52, mae’r rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â newidiadau a wneir i restr a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (7), pan wneir newid i gywiro unrhyw anghywirdeb yn y rhestr ar neu ar ôl y diwrnod y’i lluniwyd, rhaid i’r newid gael effaith o’r diwrnod y digwyddodd yr amgylchiadau a arweiniodd at y newid gyntaf.

(3Pan wneir newid er mwyn rhoi effaith i hysbysiad cwblhau, mae’r newid yn cael effaith o’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad.

(4Ond pan fo diwrnod gwahanol, o dan Atodlen 4A i’r Ddeddf—

(a)yn cael ei amnewid gan hysbysiad gwahanol o dan baragraff 1(3) o’r Atodlen honno,

(b)yn cael ei gytuno o dan baragraff 3 o’r Atodlen honno, neu

(c)yn cael ei bennu yn unol ag apêl o dan baragraff 4 o’r Atodlen honno,

mae’r newid yn cael effaith o’r diwrnod sy’n cael ei amnewid, ei gytuno neu ei bennu felly.

(5Pan nad oes modd rhesymol canfod y diwrnod y cododd yr amgylchiadau perthnasol—

(a)pan wneir y newid er mwyn rhoi effaith i gynnig, mae’r newid yn cael effaith o’r diwrnod y cyflwynwyd y cynnig i’r SP;

(b)mewn unrhyw achos arall, mae’r newid yn cael effaith o’r diwrnod y’i gwneir.

(6Mae newid a wneir er mwyn cywiro anghywirdeb (ac eithrio un sydd wedi codi oherwydd gwall neu ddiffyg ar ran trethdalwr)—

(a)yn y rhestr ar y diwrnod y’i lluniwyd, neu

(b)a gododd wrth wneud newid blaenorol mewn cysylltiad â mater a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (5),

sy’n cynyddu’r gwerth ardrethol a ddangosir yn y rhestr ar gyfer yr hereditament y mae’r anghywirdeb yn ymwneud ag ef, yn cael effaith o’r diwrnod y gwneir y newid.

(7Pan fo angen gwneud newid ar ôl pen-blwydd cyntaf y diwrnod y caiff y rhestr nesaf ei llunio, dim ond os caiff ei gwneud er mwyn rhoi effaith i gynnig y mae’n cael effaith ôl-weithredol.

Hawliau hysbysebu

28.—(1Pan fo’r amgylchiadau sy’n arwain at y newid yn deillio o’r ffaith bod hereditament hysbysebu yn dod i fodolaeth, mae rheoliad 27 yn cael effaith fel pe bai’r amgylchiadau hynny wedi digwydd—

(a)pan godwyd unrhyw strwythur neu unrhyw arwydd, ar ôl i’r hawl sy’n ffurfio’r hereditament hysbysebu gael ei gosod allan neu ei hoedi, er mwyn galluogi’r hawl i gael ei harfer, neu

(b)pan ddangoswyd unrhyw hysbyseb drwy arfer yr hawl,

pa un bynnag sydd gynharaf; a rhaid trin yr hereditament hwnnw at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf fel pe bai’n dechrau cael ei feddiannu bryd hynny.

(2Rhaid trin codi, datgymalu neu newid unrhyw strwythur neu unrhyw arwydd er mwyn galluogi’r hawl i gael ei harfer, ar ôl yr amser a grybwyllir ym mharagraff (1), fel newid perthnasol mewn amgylchiadau at ddibenion cynnig a wneir ar y sail a bennir yn rheoliad 4(1)(b) (gwerth ardrethol sy’n anghywir oherwydd newid perthnasol mewn amgylchiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl y diwrnod y lluniwyd y rhestr).

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “hereditament hysbysebu” (“advertising hereditament”) yw hereditament sy’n cynnwys hawl y mae adran 64(2) o’r Ddeddf yn gymwys iddi;

mae “strwythur” (“structure”) yn cynnwys hysbysfwrdd, ffrâm, post neu wal.

Y dyddiad cael effaith sydd i’w ddangos yn y rhestr

29.  Pan wneir newid, rhaid i’r rhestr ddangos o ba ddiwrnod y mae’r newid i fod yn gymwys.

Hysbysu am newid

30.—(1O fewn 28 o ddiwrnodau i newid rhestr, rhaid i SP hysbysu’r awdurdod perthnasol o effaith y newid; a rhaid i’r awdurdod perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, newid y copi o’r rhestr a adneuwyd yn ei brif swyddfa o dan adran 41(6B)(4) o’r Ddeddf.

(2Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i’r SP hysbysu’r trethdalwr ac unrhyw gynigydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff (5), am y canlynol—

(a)effaith y newid, a

(b)effaith cymhwyso’r Rhan hon, a Rhan 5, mewn perthynas â’r newid.

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â newidiadau a wneir i gywiro gwall clerigol yn unig, neu i adlewyrchu—

(a)newid yng nghyfeiriad yr hereditament o dan sylw;

(b)newid yn ardal yr awdurdod perthnasol.

(4Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â newid a wneir i adlewyrchu—

(a)penderfyniad gan yr SP bod sail gadarn i gynnig;

(b)penderfyniad, mewn perthynas â’r hereditament sy’n destun y cynnig, gan TPC, yr Uwch Dribiwnlys neu lys;

(c)cytundeb o dan reoliad 22.

(5Y cynigydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yw unrhyw gynigydd yr atgyfeiriwyd apêl mewn perthynas â’r hereditament ar ei ran i TPC o dan reoliad 24(1) ac y mae ei apêl naill ai—

(a)heb gael ei phenderfynu gan TPC, neu

(b)wedi ei phenderfynu felly a naill ai—

(i)bod apêl wedi ei gwneud i’r Uwch Dribiwnlys a heb gael ei phenderfynu, neu

(ii)nad yw’r amser ar gyfer gwneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys wedi dod i ben eto.

(2)

Diwygiwyd gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 38(7) o Atodlen 5 iddi.

(3)

O.S. 2000/1097 (Cy. 75), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Mewnosodwyd adran 41(6B) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 19 o Atodlen 5 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources