Talu cosb Rhan 2
17.—(1) Rhaid i unrhyw swm sy’n dod i law’r SP ar ffurf cosb Rhan 2 gael ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru.
(2) Caiff yr SP adennill unrhyw gosb Rhan 2 sydd heb ei thalu fel dyled sifil sy’n ddyledus i’r SP.
(3) Ni chaniateir i hawliad i adennill cosb Rhan 2 gael ei wneud—
(a)tan ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 18, neu
(b)os gwneir apêl o dan reoliad 18, hyd nes y penderfynir ar yr apêl.
(4) Caiff yr SP ddileu cosb Rhan 2 yn llawn.
(5) Os bydd yr SP yn dileu cosb Rhan 2, rhaid i’r SP ad-dalu unrhyw swm a dalwyd mewn cysylltiad â’r gosb honno.