Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

Dehongli: cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl o dan—

(a)

rheoliad 18;

(b)

rheoliad 24;

(c)

paragraff 4 o Atodlen 4A(1) i’r Ddeddf (ardrethu annomestig: adeiladau newydd (diwrnodau cwblhau)) fel y mae’n gymwys i Ran 3 o’r Ddeddf (ardrethu annomestig) (a elwir yn y Rheoliadau hyn yn “apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau”);

(d)

paragraff 5C o Atodlen 9(2) i’r Ddeddf (a elwir yn y Rheoliadau hyn yn “apêl yn erbyn gosod cosb Atodlen 9”);

ystyr “apêl yn erbyn gosod cosb” (“appeal against imposition of a penalty”) yw—

(a)

apêl yn erbyn gosod cosb Atodlen 9, neu

(b)

apêl o dan reoliad 18;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod bilio sydd â’r ystyr a roddir i “billing authority” gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3);

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevantauthority”), mewn perthynas â hereditament, yw’r awdurdod y mae’r hereditament yn ei ardal;

ystyr “clerc” (“clerk”), mewn perthynas ag apêl, yw clerc TPC;

ystyr “cosb Atodlen 9” (“Schedule 9 penalty”) yw cosb a osodir o dan baragraff 5A o Atodlen 9 i’r Ddeddf;

ystyr “cosb Rhan 2” (“Part 2 penalty”) yw cosb ariannol a osodir o dan reoliad 16;

mae i “cwmni”, “cwmni daliannol” ac “is-gwmni” yr ystyron a roddir i “company”, “holding company” a “subsidiary” gan Ddeddf Cwmnïau 2006(4);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(5);

ystyr “cynigydd” (“proposer”) yw’r person sy’n gwneud cynnig;

ystyr “cynnig” (“proposal”) yw cynnig o dan reoliad 11 i newid rhestr leol neu a gymhwysir gan reoliad 31 ar gyfer y rhestr ganolog;

mae i “cysylltiad cymwys” (“qualifying connection”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 64 o’r Ddeddf;

ystyr “hysbysiad cwblhau” (“completionnotice”) yw hysbysiad o dan baragraff 1 o Atodlen 4A i’r Ddeddf fel y mae’n gymwys i Ran 3 o’r Ddeddf, sy’n nodi’r diwrnod cwblhau fel 1 Ebrill 2023 neu wedi hynny;

ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd TPC;

ystyr “newid” (“alteration”) yw newid rhestr leol neu’r rhestr ganolog mewn perthynas â hereditament penodol, ac mae “newid” (“alter”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “PB” (person â buddiant) (“IP” (interested person))—

(a)

mewn perthynas â hereditament sy’n rhan o Ystad y Goron ac sy’n cael ei ddal gan Gomisiynwyr Ystad y Goron o dan eu rheolaeth o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ystad y Goron 1961(6), yw Comisiynwyr Ystad y Goron;

(b)

mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, yw—

(i)

y meddiannydd;

(ii)

unrhyw berson arall (ac eithrio morgeisai nad yw mewn meddiant) sydd â naill ai ystad gyfreithiol neu fuddiant ecwitïol mewn unrhyw ran o’r hereditament a fyddai’n rhoi hawl i’r person hwnnw (ar ôl diwedd unrhyw fuddiant blaenorol) feddiannu’r hereditament neu unrhyw ran ohono;

(iii)

unrhyw berson sydd â chysylltiad cymwys â’r meddiannydd neu â pherson a ddisgrifir yn (ii);

ystyr “porth electronig TPC” (“VTW’s electronic portal”) yw’r cyfleuster ar-lein a ddarperir gan TPC i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag apelau a wneir mewn perthynas â’r canlynol—

(a)

rhestr leol a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, neu

(b)

rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;

ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adrannau 52 a 54A o’r Ddeddf;

ystyr “rhestr leol” (“local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adrannau 41 a 54A o’r Ddeddf;

ystyr “SP” (“VO”) yw swyddog prisio; ac fel y mae’n gymwys i restr, y swyddog prisio ar gyfer yr awdurdod y mae’r rhestr yn cael ei llunio a’i chadw ar ei gyfer;

ystyr “SPC” (“CVO”) yw swyddog prisio canolog;

ystyr “TPC” (“VTW”) yw Tribiwnlys Prisio Cymru(7);

ystyr “trethdalwr” (“ratepayer”), fel y mae’n gymwys i hereditament, yw’r meddiannydd neu, os nad yw’r hereditament wedi ei feddiannu, y perchennog;

ystyr “tribiwnlys prisio” (“valuation tribunal”) yw tribiwnlys a gynullwyd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2010 gan Dribiwnlys Prisio Cymru oni bai ei fod yn cyfeirio’n benodol at dribiwnlys prisio a oedd yn bodoli cyn 1 Gorffennaf 2010.

(2Rhaid trin person fel pe bai ganddo gysylltiad cymwys ag un arall—

(a)pan fo’r ddau berson yn gwmnïau, ac—

(i)pan fo’r naill yn is-gwmni i’r llall, neu

(ii)pan fo’r ddau yn is-gwmnïau i’r un cwmni, neu

(b)pan mai un person yn unig sy’n gwmni, pan fo gan y person arall (yr “ail berson”) fuddiant yn y cwmni hwnnw a fyddai, pe bai’r ail berson yn gwmni, yn golygu ei fod yn gwmni daliadol i’r llall.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at barti i apêl yn cynnwys y person sy’n gwneud yr apêl (“yr apelydd”) ac—

(a)pan fo apêl yn cael ei gwneud o dan reoliad 18 neu apêl yn erbyn gosod cosb Atodlen 9, yr SP;

(b)pan fo apêl yn cael ei gwneud o dan reoliad 24—

(i)pob person y mae ei gytundeb yn ofynnol o dan reoliad 22, a

(ii)unrhyw berson arall sydd wedi bod yn drethdalwr mewn perthynas â’r hereditament ers y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3)(b)(iii) ac sydd wedi hysbysu’r SP cyn y gwrandawiad, neu cyn y penderfyniad ar sail sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 37 neu drwy gytundeb o dan reoliad 38, fod y person yn dymuno bod yn barti i’r apêl;

(iii)y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b)(ii) yw’r dyddiad y cafodd yr SP y cadarnhad ar gyfer y gwiriad sy’n ymwneud â’r cynnig sy’n destun yr apêl.

(c)pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn hysbysiad cwblhau, yr awdurdod perthnasol.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 18 yn gyfeiriad at ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn rheoliad 18(4).

(1)

Mewnosodwyd Atodlen 4A gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 36 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 4A gan adran 118 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) a pharagraff 83(2) o Atodlen 13 iddi, a chan baragraff 4(2) o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28).

(2)

Mewnosodwyd paragraff 5C gan adran 72(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Fe’i diwygiwyd gan adran 151(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), a chan baragraff 5(2) o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28).

(3)

1992 p. 14. Gweler adran 1(2) am y diffiniad o “billing authority”.

(4)

2006 p. 46. Gweler adran 1 am y diffiniad o “company” ac adran 1159 ac Atodlen 6 am y diffiniadau o “holding company” a “subsidiary”.

(5)

2000 p. 7 a ddiwygiwyd gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 p. 21.

(7)

Sefydlwyd TPC gan Reoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (O.S. 2010/713 (Cy. 69)).