RHAN 2Newid Rhestrau Lleol
Hysbysu am newid30
1
O fewn 28 o ddiwrnodau i newid rhestr, rhaid i SP hysbysu’r awdurdod perthnasol o effaith y newid; a rhaid i’r awdurdod perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, newid y copi o’r rhestr a adneuwyd yn ei brif swyddfa o dan adran 41(6B)13 o’r Ddeddf.
2
Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i’r SP hysbysu’r trethdalwr ac unrhyw gynigydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff (5), am y canlynol—
a
effaith y newid, a
b
effaith cymhwyso’r Rhan hon, a Rhan 5, mewn perthynas â’r newid.
3
Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â newidiadau a wneir i gywiro gwall clerigol yn unig, neu i adlewyrchu—
a
newid yng nghyfeiriad yr hereditament o dan sylw;
b
newid yn ardal yr awdurdod perthnasol.
4
Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â newid a wneir i adlewyrchu—
a
penderfyniad gan yr SP bod sail gadarn i gynnig;
b
penderfyniad, mewn perthynas â’r hereditament sy’n destun y cynnig, gan TPC, yr Uwch Dribiwnlys neu lys;
c
cytundeb o dan reoliad 22.
5
Y cynigydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yw unrhyw gynigydd yr atgyfeiriwyd apêl mewn perthynas â’r hereditament ar ei ran i TPC o dan reoliad 24(1) ac y mae ei apêl naill ai—
a
heb gael ei phenderfynu gan TPC, neu
b
wedi ei phenderfynu felly a naill ai—
i
bod apêl wedi ei gwneud i’r Uwch Dribiwnlys a heb gael ei phenderfynu, neu
ii
nad yw’r amser ar gyfer gwneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys wedi dod i ben eto.