RHAN 3Newid Rhestrau Canolog

Hereditamentau perthnasol31

1

Mae’r rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys, fel y’u haddaswyd gan baragraffau (3) a (4), i hereditament (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “hereditament perthnasol”) y mae’n ofynnol gan reoliadau o dan adran 53 o’r Ddeddf iddo gael ei ddangos mewn rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, fel pe bai—

a

unrhyw gyfeiriad at restr leol yn gyfeiriad at y rhestr ganolog;

b

unrhyw gyfeiriad at borth electronig yr SP yn gyfeiriad at y cyfleuster ar-lein a ddarperir gan y SPC i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â chynigion ar gyfer newid rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;

c

unrhyw gyfeiriad at SP yn gyfeiriad at y SPC;

d

unrhyw gyfeiriad at newid rhestr yn gyfeiriad at ei newid mewn perthynas â disgrifiad o hereditamentau.

2

Y rheoliadau yw—

a

rheoliad 4, ac eithrio paragraffau (1)(k) ac (l) a (3),

b

rheoliadau 5 i 14,

c

rheoliad 15, ac eithrio paragraffau (4) a (5),

d

rheoliadau 16 i 22,

e

rheoliad 23, ac eithrio paragraffau (2)(d) a (4),

f

rheoliadau 24 i 26,

g

rheoliad 27, ac eithrio paragraffau (3) a (4) ac, i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraffau (3) a (4), paragraffau (2) a (7),

h

rheoliad 29, ac

i

rheoliad 30, ac eithrio paragraff (3)(b).

3

Mae rheoliad 4(1)(o) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at adran 42 o’r Ddeddf yn gyfeiriad at adran 53 o’r Ddeddf.

4

Mae rheoliad 30(1) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at yr awdurdod perthnasol a’i brif swyddfa yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru.

5

Yr un pryd ag y mae’r SPC yn cyflwyno copi o gynnig i’r trethdalwr o dan reoliad 15(1) mewn perthynas â hereditament perthnasol, rhaid i’r SPC gyflwyno copi i Weinidogion Cymru.