Gwaredu heb wrandawiad—pan fo’r partïon wedi dod i gytundeb
38.—(1) Caiff y tribiwnlys prisio waredu apêl o dan y Rheoliadau hyn heb wrandawiad—
(a)os bydd parti yn hysbysu’r tribiwnlys prisio mewn ysgrifen—
(i)bod pob parti wedi dod i gytundeb,
(ii)beth yw’r cytundeb hwnnw a’r penderfyniad y gofynnir i’r tribiwnlys prisio ei wneud, a
(iii)bod pob parti yn cytuno i’r apêl gael ei gwaredu heb wrandawiad a,
(b)os yw’r clerc yn anfon hysbysiad at bob parti i’r achos yn datgan—
(i)bod y tribiwnlys prisio yn bwriadu gwaredu’r apêl heb wrandawiad,
(ii)y penderfyniad y mae’r tribiwnlys prisio yn bwriadu ei wneud, a
(iii)y caiff unrhyw barti wrthwynebu i’r apêl gael ei gwaredu heb wrandawiad.
(2) Os anfonir hysbysiad o dan baragraff (1)(b), caiff parti ofyn i’r clerc i’r apêl gael ei gwaredu â gwrandawiad.
(3) Rhaid i gais o dan baragraff (2) gael ei wneud mewn ysgrifen a dod i law’r clerc o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr anfonodd y clerc hysbysiad o dan baragraff (1)(b).
(4) Ni chaiff y tribiwnlys prisio waredu apêl heb wrandawiad—
(a)os yw’r apêl, ym marn y clerc, yn codi materion o bwys i’r cyhoedd sy’n ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal,
(b)os nad oes cyfnod o 28 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers anfon yr hysbysiad o dan baragraff (1)(b), neu
(c)os oes parti i’r apêl wedi gofyn am wrandawiad.
(5) Caniateir i swyddogaethau’r tribiwnlys prisio o dan y rheoliad hwn gael eu cyflawni ar ei ran gan y clerc.