RHAN 2Newid Rhestrau Lleol
Cydnabod bod cadarnhad wedi dod i law8
1
Ar ôl cael cadarnhad, fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(1)(c), rhaid i’r SP gyflwyno i’r person a wnaeth y cadarnhad gydnabyddiaeth ysgrifenedig bod y cadarnhad wedi dod i law a rhaid iddi nodi—
a
y dyddiad y cafodd yr SP y cadarnhad, a
b
dyddiad y gydnabyddiaeth.
2
Yn y Rheoliadau hyn, y dyddiad y cafodd yr SP gadarnhad yw’r dyddiad a nodir yn y gydnabyddiaeth yn unol â pharagraff (1)(a).