Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 378 (Cy. 58)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023

Gwnaed

28 Mawrth 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

30 Mawrth 2023

Yn dod i rym

26 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023 a deuant i rym ar 26 Mai 2023.

Diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015

2.—(1Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16(a)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (iii) hepgorer “neu”, a

(b)ar ddiwedd is-baragraff (iv) hepgorer “neu” a mewnosoder—

(v)ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996(3); neu

(vi)ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996(4); neu.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) sy’n pennu na chaiff person weithio fel athro neu athrawes ysgol a chyflawni gwaith penodedig oni bai ei fod neu ei bod yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig neu’n bodloni’r gofynion penodedig.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i gynnwys absenoldeb profedigaeth rhiant ac absenoldeb rhiant a rennir yn y rhestr o hawlogaethau absenoldeb statudol y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn eu cymhwyso er mwyn estyn y cyfnod penodedig y gall person gyflawni gwaith penodedig amdano heb statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu SMED2@llyw.cymru.

(2)

O.S. 2015/140 (Cy. 8), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/6 (Cy. 4); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd adrannau 75E a 75G yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18) gan adran 117(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 75G gan reoliad 146(a) a (b) o O.S. 2016/413 (Cy. 131).

(4)

Mewnosodwyd adran 80EA gan baragraff 2 o Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24).