2023 Rhif 378 (Cy. 58)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a dod i rym1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023 a deuant i rym ar 26 Mai 2023.

Diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 20152

1

Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 16(a)—

a

ar ddiwedd is-baragraff (iii) hepgorer “neu”, a

b

ar ddiwedd is-baragraff (iv) hepgorer “neu” a mewnosoder—

v

ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 19963; neu

vi

ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 19964; neu

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) sy’n pennu na chaiff person weithio fel athro neu athrawes ysgol a chyflawni gwaith penodedig oni bai ei fod neu ei bod yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig neu’n bodloni’r gofynion penodedig.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i gynnwys absenoldeb profedigaeth rhiant ac absenoldeb rhiant a rennir yn y rhestr o hawlogaethau absenoldeb statudol y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn eu cymhwyso er mwyn estyn y cyfnod penodedig y gall person gyflawni gwaith penodedig amdano heb statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu SMED2@llyw.cymru.