Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
28 Mawrth 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
30 Mawrth 2023
Yn dod i rym
26 Mai 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023 a deuant i rym ar 26 Mai 2023.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(a)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (iii) hepgorer “neu”, a
(b)ar ddiwedd is-baragraff (iv) hepgorer “neu” a mewnosoder—
“(v)ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996(3); neu
(vi)ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996(4); neu”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) sy’n pennu na chaiff person weithio fel athro neu athrawes ysgol a chyflawni gwaith penodedig oni bai ei fod neu ei bod yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig neu’n bodloni’r gofynion penodedig.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i gynnwys absenoldeb profedigaeth rhiant ac absenoldeb rhiant a rennir yn y rhestr o hawlogaethau absenoldeb statudol y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn eu cymhwyso er mwyn estyn y cyfnod penodedig y gall person gyflawni gwaith penodedig amdano heb statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Deddfwriaeth a Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu SMED2@llyw.cymru.
O.S. 2015/140 (Cy. 8), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/6 (Cy. 4); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adrannau 75E a 75G yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18) gan adran 117(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 75G gan reoliad 146(a) a (b) o O.S. 2016/413 (Cy. 131).
Mewnosodwyd adran 80EA gan baragraff 2 o Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24).