- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn awdurdodi rhoi ar y farchnad, yng Nghymru, gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig penodedig at ddibenion Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (EUR 2003/1829). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn addasu “deiliaid yr awdurdodiad” ar gyfer 18 o awdurdodiadau presennol o dan EUR 2003/1829.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn (rheoliad 3 ac Atodlenni 1 i 8) yn cynnwys yr awdurdodiad, o ran Cymru, ar gyfer rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys yr organeddau a addaswyd yn enetig penodedig, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r organeddau hynny—
mae Atodlen 1 yn awdurdodiad newydd ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2 × DAS-44406-6;
mae Atodlen 2 yn awdurdodiad newydd ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2;
mae Atodlen 3 yn awdurdodiad newydd ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig SYHT0H2;
mae Atodlen 4 yn awdurdodiad newydd ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × 1507 × MON 87411 × 59122 a’i is-gyfuniadau a restrir;
mae Atodlen 5 yn awdurdodiad newydd ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig 1507 × MIR162 × MON 810 × NK603 a’i is-gyfuniadau a restrir;
mae Atodlen 6 yn awdurdodiad newydd ar gyfer cotwm a addaswyd yn enetig GHB614 × T304-40 × GHB119;
mae Atodlen 7 yn adnewyddu’r awdurdodiad ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 88017 × MON 810;
mae Atodlen 8 yn adnewyddu’r awdurdodiad ar gyfer rêp had olew a addaswyd yn enetig GT73. Mae’r adnewyddiad hwn wedi ei gyfyngu i gynhyrchion (heblaw bwyd) sy’n cynnwys rêp had olew a addaswyd yn enetig GT73, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r rêp had olew hwnnw. Nid yw’n cwmpasu cynhyrchion sydd wedi eu “cynhyrchu o’r” organedd a addaswyd yn enetig hwnnw.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 4 i 21) yn diwygio, o ran Cymru, 18 o Benderfyniadau’r UE a ddargedwir sy’n cynnwys awdurdodiadau presennol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig. Mae’r diwygiadau oll yn ymwneud â newidiadau i enwau a chyfeiriadau priod ddeiliaid yr awdurdodiadau, a’u cynrychiolwyr ym Mhrydain Fawr.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn (rheoliad 22) yn dirymu, o ran Cymru, Benderfyniad yr UE a ddargedwir sy’n cynnwys yr awdurdodiad blaenorol ar gyfer y cynhyrchion sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan Atodlen 7.
Mae’r awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn yn ddilys am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol ag Erthyglau 7(4) a 19(4) o EUR 2003/1829. Mae hyn yn ddarostyngedig i Erthyglau 11(4) a 23(4) o EUR 2003/1829, sy’n darparu ar gyfer estyn y cyfnod awdurdodi o dan amgylchiadau penodol pan fo cais i adnewyddu wedi ei gyflwyno.
Ym mhob Atodlen, mae paragraff 4 yn pennu’r dulliau canfod, gan gynnwys samplu, a ddilyswyd i’w defnyddio mewn perthynas â’r cynhyrchion awdurdodedig. Mae’r dogfennau y cyfeirir atynt wedi eu cyhoeddi ar https://gmo-crl.jrc.ec.europa.eu/method-validations.
Mae’n ofynnol i wybodaeth am yr awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn gael ei chofnodi yn y gofrestr o fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig y cyfeirir ati yn Erthygl 28(1) o EUR 2003/1829 (“y Gofrestr”).
Mae’n ofynnol hysbysu am yr awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn drwy’r System Glirio Bioddiogelwch i’r Partïon i Brotocol Cartagena ar Fioddiogelwch i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, yn unol ag Erthyglau 9(1) a 15(1)(e) o Reoliad (EC) Rhif 1946/2003 ar symud organeddau a addaswyd yn enetig ar draws ffiniau (EUR 2003/1946).
Mae rhagor o wybodaeth am yr awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn gan gynnwys mewn perthynas â’r Gofrestr, y cynlluniau monitro sy’n ofynnol gan baragraff 5 o bob Atodlen, neu’r wybodaeth yr hysbysir amdani yn unol â Phrotocol Cartagena, ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu drwy ysgrifennu at regulated.products.wales@food.gov.uk.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: