Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau ac Addasiadau i Awdurdodiadau) (Cymru) 2023

Diwygio Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/698

8.—(1Mae Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/698 sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig 305423 (DP-3Ø5423-1), neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 7 (deiliad yr awdurdodiad), yn lle’r testun rhodder—

The authorisation holder is Corteva Agriscience LLC, United States of America, represented in Great Britain by Corteva Agriscience UK Limited.

(3Yn Erthygl 9 (y derbynnydd), yn lle’r testun rhodder—

This Decision is addressed to Corteva Agriscience LLC, 9330 Zionsville Road, Indianapolis, Indiana 46268-1054, United States of America, represented in Great Britain by Corteva Agriscience UK Limited, Cpc2 Capital Park, Fulbourn, Cambridge, CB21 5XE, United Kingdom.

(4Yn yr Atodiad, yn lle pwynt (a) (y ceisydd a deiliad yr awdurdodiad) rhodder—

(a) Authorisation holder

(1) The authorisation holder is Corteva Agriscience LLC, 9330 Zionsville Road, Indianapolis, Indiana 46268-1054, United States of America.

(2) The authorisation holder is represented in Great Britain by Corteva Agriscience UK Limited, Cpc2 Capital Park, Fulbourn, Cambridge, CB21 5XE, United Kingdom.

(1)

EUDN 2015/698, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/705.