- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 3
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marc adnabod unigryw DAS-81419-2 wedi ei bennu ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2.
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003, yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r ffa soia hynny;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “soybean”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2.
(2) Mae’r dull wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean DAS-81419-2 by Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/13 VP”, dyddiedig 13 Mawrth 2015.
(3) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the In-house Validation of a DNA Extraction Method from Soybean Grains and Validated Method”, cyfeirnod “EURL-VL-11/10XP”, dyddiedig 13 Mai 2014.
(4) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio ERM®-BF437 drwy Gyd-ganolfan Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd(1).
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2, rhif cyfeirnod “RP1134” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd(2) ar 8 Mehefin 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
6.—(1) Deiliad yr awdurdodiad yw Corteva Agriscience LLC, 9330 Zionsville Road, Indianapolis, Indiana 46268-1054, Unol Daleithiau America.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Corteva Agriscience UK Limited, Cpc2 Capital Park, Fulbourn, Caergrawnt, CB21 5XE, Y Deyrnas Unedig.
Mae “Food Safety Authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 2(17) o Reoliad 1829/2003.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: