ATODLENNI

ATODLEN 2Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig DAS-81419-2, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Deiliad yr awdurdodiad yw Corteva Agriscience LLC, 9330 Zionsville Road, Indianapolis, Indiana 46268-1054, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Corteva Agriscience UK Limited, Cpc2 Capital Park, Fulbourn, Caergrawnt, CB21 5XE, Y Deyrnas Unedig.