ATODLENNI

ATODLEN 4Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × 1507 × MON 87411 × 59122 ac is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.