ATODLENNI

ATODLEN 6Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys cotwm a addaswyd yn enetig GHB614 × T304-40 × GHB119, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r cotwm hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marc adnabod unigryw BCS-GHØØ2-5 × BCS-GHØØ4-7 × BCS-GHØØ5-8 wedi ei bennu ar gyfer cotwm a addaswyd yn enetig GHB614 × T304-40 × GHB119.