Search Legislation

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau ac Addasiadau i Awdurdodiadau) (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 3

ATODLEN 7Adnewyddu’r awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 88017 × MON 810, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marc adnabod unigryw MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6 wedi ei bennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 88017 × MON 810.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi(1) at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003, yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraff (2) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6.

(2Mae’r dulliau wedi eu nodi yn—

(a)ar gyfer MON-88Ø17-3, y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 88017 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL16/05VP corrected version 1”, dyddiedig 30 Mawrth 2010;

(b)ar gyfer MON-ØØ81Ø-6, y ddogfen o’r enw “CRL assessment on the validation of an event specific method for the relative quantitation of maize line MON 810 DNA using real-time PCR as carried out by Federal Institute for Risk Assessment (BfR)”, cyfeirnod “CRL-VL-25/04VR”, dyddiedig 10 Mawrth 2006.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dulliau canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP”, dyddiedig 13 Hydref 2008.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003—

(a)gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio AOCS 0406-D2 (ar gyfer MON-88Ø17-3) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America(2);

(b)gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio ERM®-BF413 (ar gyfer MON-ØØ81Ø-6) drwy Gyd-ganolfan Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd(3).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3 × MON-ØØ81Ø-6, rhif cyfeirnod “RP1179” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd(4) ar 2 Gorffennaf 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St. Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Limited, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, CB4 0WB, Y Deyrnas Unedig.

(1)

Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiad a roddwyd yn flaenorol o dan Benderfyniad y Comisiwn 2010/429/EU. Mae’r offeryn hwnnw wedi ei ddirymu gan reoliad 22 o’r Rheoliadau hyn.

(4)

Mae “Food Safety Authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 2(17) o Reoliad 1829/2003.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources