- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 3
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marc adnabod unigryw MON-ØØØ73-7 wedi ei bennu ar gyfer rêp had olew a addaswyd yn enetig GT73.
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi(1) at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003, yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys rêp had olew a addaswyd yn enetig MON-ØØØ73-7, neu sydd wedi ei gyfansoddi o’r rêp had olew hwnnw;
(b)cynhyrchion sy’n cynnwys rêp had olew a addaswyd yn enetig MON-ØØØ73-7, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r rêp had olew hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (a) a heblaw bwyd, ac eithrio amaethu.
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “oilseed rape”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys rêp had olew a addaswyd yn enetig MON-ØØØ73-7, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r rêp had olew hwnnw, y cyfeirir ato ym mharagraff 2.
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod rêp had olew a addaswyd yn enetig MON-ØØØ73-7.
(2) Mae’r dull wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Oilseed Rape Line RT73 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL26/04VP”, dyddiedig 7 Chwefror 2007.
(3) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of an Oilseed Rape DNA Extraction Method from Seeds”, “Corrected version 1”, cyfeirnod “CRLVL26/04XP Version 1”, dyddiedig 25 Gorffennaf 2017.
(4) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio AOCS 0304-B3 drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America(2).
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad rêp had olew a addaswyd yn enetig MON-ØØØ73-7, rhif cyfeirnod “RP1263” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd(3) ar 22 Medi 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
6.—(1) Deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St. Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Limited, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, CB4 0WB, Y Deyrnas Unedig.
Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiad a roddwyd yn flaenorol yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2005/635/EC sy’n ymwneud â rhoi ar y farchnad, yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, gynnyrch rêp had olew (Brassica napus L., GT73 line) a addaswyd yn enetig er mwyn gallu goddef y chwynladdwr glyffosad (OJ Rhif L 228, 3.9.2005 t.11).
Mae “Food Safety Authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 2(17) o Reoliad 1829/2003.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: