Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 420 (Cy. 63)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

11 Ebrill 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymruu

12 Ebrill 2023

Yn dod i rym

3 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Mai 2023.

Dirymu

2.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020(3),

(b)Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020(4), ac

(c)Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021(5).

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

3.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

mae i “yr awdurdod derbyn” yr un ystyr ag a roddir i “the admission authority” yn adran 88(1)(a) a (b) o Ddeddf 1998;,

ystyr “gwrandawiad apêl” (“appeal hearing”) yw gwrandawiad apêl at ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf 1998;,

ystyr “mynediad o bell” (“remote access”) yw mynediad at wrandawiad apêl i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r gwrandawiad neu gymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt awdio byw a chyswllt fideo byw;,

ystyr “swyddog cyflwyno” (“presenting officer”) yw person a enwebir gan yr awdurdod priodol, i wneud sylwadau llafar i’r panel apêl mewn perthynas â’r apêl;, a

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Mae “cyswllt awdio byw”, mewn perthynas â pherson (P) sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl, yn gyswllt ffôn byw neu’n drefniant arall sydd—

(a)yn galluogi P i glywed yr holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P, a

(b)yn galluogi’r holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P i glywed P.

(4) Mae “cyswllt fideo byw”, mewn perthynas â pherson (P) sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl, yn gyswllt teledu byw neu’n drefniant arall sydd—

(a)yn galluogi P i weld ac i glywed yr holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P, a

(b)yn galluogi’r holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P i weld ac i glywed P.

(3Yn rheoliad 3, ar ôl y geiriau “paragraff perthnasol yn” mewnosoder “Atodlen 1”.

(4Yn rheoliad 5, ar ôl y geiriau “yn unol ag” mewnosoder “Atodlen 2”.

(5Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)o flaen paragraff 1 mewnosoder—

A1.    Gwrandawiadau apêl

(1) Caniateir i awdurdod derbyn benderfynu bod rhaid cynnal gwrandawiad apêl—

(a)yn bersonol,

(b)yn gyfan gwbl drwy ddefnyddio mynediad o bell (“apêl o bell”), cyhyd â bod yr amodau yn is-baragraff (4) wedi eu bodloni, neu

(c)yn rhannol yn bersonol ac yn rhannol drwy ddefnyddio mynediad o bell (“apêl hybrid”), cyhyd â bod yr amodau yn is-baragraff (4) wedi eu bodloni.

(2) Ni chaniateir i apêl o bell ond cael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy gyswllt awdio—

(a)os nad oes cyswllt fideo byw ar gael am resymau sy’n ymwneud â chysylltiad rhyngrwyd, a

(b)os yw’r apelydd a’r swyddog cyflwyno yn gytûn.

(3) Os yw awdurdod derbyn yn penderfynu bod rhaid cynnal naill ai apêl o bell neu apêl hybrid, rhaid iddo wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i’r panel apêl gael mynediad at yr offer mynediad o bell angenrheidiol.

(4) Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) ac (c) fel a ganlyn—

(a)bod y partïon yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn,

(b)bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig i’w alluogi i glywed a chael ei glywed, ac i weld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y gwrandawiad apêl, ac

(c)bod yr awdurdod derbyn yn ystyried bod modd gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw.

(5) Caniateir i’r awdurdod derbyn benderfynu y bydd apêl yn cael ei phenderfynu ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir os nad yw naill ai’r swyddog cyflwyno neu’r apelydd yn gallu bod yn bresennol ar ddyddiad y gwrandawiad.,

(b)ym mharagraff 1(6), yn lle “ymddangos a gwneud” rhodder “wneud”, ac

(c)ym mharagraff 2(6), yn lle “ymddangos a gwneud” rhodder “wneud”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

11 Ebrill 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”). Mae Rheoliadau 2005 yn rhagnodi materion sy’n ymwneud ag apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.

Gwnaeth Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau 2020”) ddiwygiadau dros dro i Reoliadau 2005 er mwyn caniatáu, o dan amgylchiadau penodol sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws—

(a)panelau apêl a chanddynt ddau aelod;

(b)i banelau apêl gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig.

Darparodd rheoliad 2(2) o Reoliadau 2020 fod y diwygiadau hynny wedi peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021, ond roedd hynny yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed yn rheoliad 3 o Reoliadau 2020. Diwygiwyd y dyddiad hwnnw i 30 Medi 2021 gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau pellach 2020”). Diwygiwyd y dyddiad eto i 30 Medi 2022 gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 (“Rheoliadau 2021”).

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2020, Rheoliadau pellach 2020 a Rheoliadau 2021. Yr effaith yw bod Rheoliadau 2005 yn parhau mewn effaith a’u bod heb eu diwygio gan Reoliadau 2020, Rheoliadau pellach 2020 na Rheoliadau 2021.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau 2005. Mae rheoliad 3(5)(a) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff newydd A1 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2005. Mae paragraff A1 yn caniatáu i awdurdodau derbyn benderfynu, o dan amgylchiadau penodol, a yw gwrandawiad apêl i’w gynnal yn bersonol, drwy fynediad o bell (“apêl o bell”) neu’n rhannol yn bersonol ac yn rhannol drwy fynediad o bell (“apêl hybrid”) (paragraff A1(1) o Atodlen 2 i Reoliadau 2005 fel y mae wedi ei fewnosod gan y Rheoliadau hyn). Os yw’r awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell neu apêl hybrid rhaid iddo wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i’r panel apêl gael mynediad at yr offer mynediad o bell angenrheidiol (paragraff A1(3) o Atodlen 2 i Reoliadau 2005 fel y mae wedi ei fewnosod gan y Rheoliadau hyn).

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2005 ymhellach i ganiatáu i’r awdurdod derbyn benderfynu y caniateir i apêl gael ei phenderfynu ar sail gwybodaeth ysgrifenedig o dan amgylchiadau penodol (paragraff A1(5) o Atodlen 2 i Reoliadau 2005 fel y mae wedi ei fewnosod gan y Rheoliadau hyn).

Mae darpariaeth bellach mewn perthynas ag apelau derbyn wedi ei gwneud mewn cod o dan adran 84 o Ddeddf 1998.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “regulations”. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 94, a mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94, gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Diwygiwyd is-adran (5A) ymhellach gan adran 152(1) a (7) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008. Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 95, a mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95, gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd is-adran (3A) gan erthygl 5(1) o O.S. 2010/1158 a pharagraff 10(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources