Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

11.—(1Mae paragraff 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ar ôl is-baragraff (2)(f) mewnosoder—

(g)unrhyw berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2 o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—

(i)yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;

(ii)wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a

(iii)yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.

(3yn is-baragraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.