12.—(1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).LL+C
(2) Ar ôl paragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.
(3) Ar ddiwedd paragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.
(4) Ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
“(o)yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—
(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu
(ii)sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)