Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

15.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—LL+C

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;

(iii)yn is-baragraff (3) o’r testun Saesneg, yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;

(iv)yn is-baragraff (3) o’r testun Cymraeg, yn lle “£294.90” a “£97.90” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 15 mewn grym ar 20.1.2023, gweler rhl. 1(2)