Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu, Cymru
Gwnaed
26 Ebrill 2023
Yn dod i rym
5 Mai 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 106A(2) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 106A(4)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract adeiladu i’r graddau y mae’n ymwneud â chynnal gweithrediadau adeiladu yng Nghymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Mai 2023.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “contract adeiladu” yr ystyr a roddir i “construction contract” yn adran 104 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996;
mae i “gweithrediadau adeiladu” yr ystyr a roddir i “construction operations” yn adran 105 o’r Ddeddf.
3.—(1) Nid yw Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys i gontract adeiladu sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
(a)mae’n cynnwys datganiad sy’n nodi ei fod yn gontract o’r fath;
(b)mae un o’r partïon i’r contract yn ymgymerwr carthffosiaeth neu’n ymgymerwr dŵr;
(c)mae’r gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy yn gysylltiedig â phrosiect seilwaith a ddynodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr yn achos o gaffael uniongyrchol ar gyfer prosiect cwsmeriaid yn unol ag amodau penodi’r ymgymerwr carthffosiaeth neu’r ymgymerwr dŵr;
(d)mae’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus o dan y contract yn cynnwys, o leiaf yn rhannol, daliadau rheolaidd—
(i)sy’n cael eu pennu’n rhannol drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol y gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy, a
(ii)sy’n dod yn daladwy ar ôl i un rhan o leiaf o’r gweithrediadau adeiladu hynny gael ei chwblhau ac y gellir cyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” ac “ymgymerwr dŵr” yw ymgymerwr carthffosiaeth neu ymgymerwr dŵr, yn ôl y digwydd, a benodir o dan adran 6(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(2)
4.—(1) Mae contract adeiladu wedi ei eithrio rhag gweithrediad adran 110(1A) o’r Ddeddf os yw’n gontract yn unol ag ef y mae parti i gontract perthnasol wedi is-gontractio i berson arall rai neu bob un o’i rwymedigaethau o dan y contract hwnnw i gynnal gweithrediadau adeiladu, neu i drefnu i eraill gynnal gweithrediadau adeiladu.
(2) Ym mharagraff (1), mae contract perthnasol yn gontract sydd wedi ei eithrio rhag gweithrediad Rhan 2 o’r Ddeddf yn unol ag erthygl 3.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
26 Ebrill 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth o ran telerau contractau adeiladu a materion cysylltiedig. Mae adran 106A(2) o’r Ddeddf honno yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddatgymhwyso, drwy orchymyn, unrhyw un neu bob un o’r darpariaethau yn Rhan 2 (i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru a Lloegr) mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o gontractau adeiladu sy’n ymwneud ag ymgymryd â gweithrediadau adeiladu penodol yng Nghymru.
Mae erthygl 3 yn datgymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf mewn perthynas â chontractau prosiectau seilwaith penodol yng Nghymru pan fo un o’r partïon i’r contract yn ymgymerwr carthffosiaeth neu ddŵr, yn ddarostyngedig i’r gofynion a ganlyn. Rhaid i’r contract ymwneud â phrosiect a ddynodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr yn achos o gaffael uniongyrchol ar gyfer prosiect cwsmeriaid yn unol ag amodau penodi’r ymgymerwr perthnasol. Rhaid i gontractau o’r fath hefyd gynnwys gwneud taliadau rheolaidd drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol yr eir iddynt ac a ddaw yn ddyledus ar ôl i un neu ragor o’r rhannau o’r gweithrediadau adeiladu gael eu cwblhau ac y gellir cyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.
Mae erthygl 4 yn datgymhwyso adran 110(1A) o’r Ddeddf mewn perthynas â’r math o gontract y cyfeirir ato, uchod, pan fo parti i’r contract hwnnw yn ymrwymo i is-gontract. Mae adran 110(1A) o’r Ddeddf yn darparu nad yw’r gofyniad i gontractau ddarparu trefn ddigonol ar gyfer pennu pa daliadau sy’n dod yn ddyledus a phryd o dan y contract wedi ei fodloni os yw’r taliad yn amodol ar gyflawni rhwymedigaethau o dan gontract arall.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Ddŵr, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1996 p. 53; mewnosodwyd adran 106A gan adran 138(3) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20). Mae’r cyfeiriad yn Neddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).