9.—(1) Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a)hepgorer y diffiniadau o “corff gwirfoddol” a “corff perthnasol”;
(b)mewnosoder yn y lle priodol—
“ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid yng Nghymru;”;
“ystyr “Cyngor y Gweithlu Addysg” (“Education Workforce Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parhawyd â’i fodolaeth gan adran 2(1) o Ddeddf 2014;”.
(3) Yn erthygl 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg—
(a)llunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithiwr ieuenctid, a
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru yn flynyddol pa un a ddylid diwygio’r rhestr o gymwysterau gweithiwr ieuenctid a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.”
(4) Ar ôl erthygl 3 mewnosoder—
3A. Caiff person fod wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr ieuenctid os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 1.”
(5) Yn erthygl 4—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “sy’n dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014” rhodder “sydd o fewn paragraff (1A)”,
(ii)ar ôl “gwasanaethau datblygu ieuenctid” mewnosoder “yng Nghymru”, a
(iii)yn lle “corff” rhodder “cyflogwr”;
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Mae person o fewn y paragraff hwn—
(a)os yw’r person yn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014, neu
(b)os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 1.”
(6) Yn erthygl 5, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg—
(a)llunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid, a
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru yn flynyddol pa un a ddylid diwygio’r rhestr o gymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2.”
(7) Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—
5A. Caiff person fod wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr cymorth ieuenctid os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 2.”
(8) Yn erthygl 6—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “sy’n dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014” rhodder “sydd o fewn paragraff (1A)”,
(ii)ar ôl “gwasanaethau datblygu ieuenctid” mewnosoder “yng Nghymru”, a
(iii)yn lle “corff” rhodder “cyflogwr”;
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Mae person o fewn y paragraff hwn—
(a)os yw’r person yn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014, neu
(b)os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 2.”;
(c)Yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson—
(a)sy’n darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol); neu
(b)sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr ieuenctid yn unol ag erthygl 4.”
(9) Mae Atodlen 1 (Gweithwyr Ieuenctid) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(10) Yn Atodlen 2—
(a)ym mharagraff 3(2) hepgorer paragraffau (a) a (b),
(b)ym mharagraff 4(2)—
(i)hepgorer paragraffau (a) i (e), (g) ac (i),
(ii)ym mharagraff (f), yn lle “dyfarniad” rhodder “tystysgrif”,
(c)ym mharagraff 5(2) hepgorer paragraff (a), a
(d)ym mharagraff 6(2), yn y testun Saesneg, hepgorer paragraffau (a) i (f) ac yn y testun Cymraeg, hepgorer paragraffau (a) i (e).
(11) Ond mae’r darpariaethau a hepgorir gan baragraff (10) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid cyn cychwyn y Gorchymyn hwn hyd 31 Mai 2025.