2023 Rhif 633 (Cy. 97)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831 ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154.

RHAN 1Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Gorffennaf 2023.

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

PENNOD 1Cyflwyniad

2

Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

3

Yn rheoliad 2(1)—

a

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;

b

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys Ascension a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”

4

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

a

yn lle paragraff (d) rhodder—

d

caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

b

ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

da

caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

db

caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

PENNOD 1Cyflwyniad

5

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20156 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

6

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1)—

a

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;

b

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”

7

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

a

yn lle paragraff (e) rhodder—

e

caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

b

ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

ea

caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

eb

caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

8

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20177 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i ddarpariaethau terfynu cymhwystra yn gynnar

9

Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

11A

Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—

a

bo A; neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

10

Yn rheoliad 81, ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—

10G

Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—

a

bo A; neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

11

Yn rheoliad 110, ar ôl paragraff (12F) mewnosoder—

12G

Nid yw paragraffau (11), (11A), (11B), (12), (12A), (12B), (12C), (12D), (12E) na (12F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—

a

bo A; neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

12

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20188 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

13

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11(1)—

a

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;

b

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

14

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA(4), ym mharagraff (ea)—

a

yn lle is-baragraff (i) rhodder—

i

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,

b

ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

ia

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,

ib

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,

PENNOD 4Diwygiadau i ddarpariaethau terfynu cymhwystra yn gynnar

15

Ar ôl rheoliad 23G mewnosoder—

23H

Nid yw rheoliadau 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D, 23E, 23F na 23G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—

a

bo P; neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

16

Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 13G mewnosoder—

13H

Nid yw paragraffau 12, 12A, 13, 13A, 13B, 13C, 13D, 13E, 13F na 13G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—

a

bo P; neu

b

bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

17

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 20189 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

18

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)—

a

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”;

b

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

19

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

a

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;

b

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

ab

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;

RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

PENNOD 1Cyflwyniad

20

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201910 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

21

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13(1)—

a

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;

b

yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

i

hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

ii

yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

iii

yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

22

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A(4)(da)—

a

yn lle is-baragraff (i) rhodder—

i

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,

b

ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

ia

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,

ib

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid myfyrwyr, ac mewn cysylltiad ag ef.

Gwneir diwygiadau—

a

i’r enwau yr adwaenir tiriogaethau tramor Prydeinig penodol wrthynt bellach, er mwyn bod yn gyson â Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981, a

b

sy’n ymwneud â statws mewnfudo dinasyddion penodol o Affganistan o ganlyniad i newidiadau a wnaed i’r rheolau mewnfudo.

Gwneir diwygiadau hefyd i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 er mwyn datgymhwyso terfynu cymhwystra yn gynnar ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys o dan amgylchiadau pan fo person wedi dod yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.