xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
12 Mehefin 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Mehefin 2023
Yn dod i rym
6 Gorffennaf 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Gorffennaf 2023.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
3. Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;
(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys Ascension a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.
4. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a)yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(db)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
5. Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(6) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
6. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1)—
(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;
(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.
7. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a)yn lle paragraff (e) rhodder—
“(e)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(ea)caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(eb)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
8. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(7) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
9. Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (11) mewnosoder—
“(11A) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—
(a)bo A; neu
(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
10. Yn rheoliad 81, ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—
“(10G) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—
(a)bo A; neu
(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
11. Yn rheoliad 110, ar ôl paragraff (12F) mewnosoder—
“(12G) Nid yw paragraffau (11), (11A), (11B), (12), (12A), (12B), (12C), (12D), (12E) na (12F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—
(a)bo A; neu
(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
12. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(8) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
13. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11(1)—
(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.
14. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA(4), ym mharagraff (ea)—
(a)yn lle is-baragraff (i) rhodder—
“(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,”;
(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(ia)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,
(ib)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,”.
15. Ar ôl rheoliad 23G mewnosoder—
“23H. Nid yw rheoliadau 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D, 23E, 23F na 23G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—
(a)bo P; neu
(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr cymwys,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
16. Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 13G mewnosoder—
“13H. Nid yw paragraffau 12, 12A, 13, 13A, 13B, 13C, 13D, 13E, 13F na 13G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—
(a)bo P; neu
(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
17. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(9) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
18. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)—
(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.
19. Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—
(a)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(ab)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
20. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(10) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
21. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13(1)—
(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.
22. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A(4)(da)—
(a)yn lle is-baragraff (i) rhodder—
“(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,”;
(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(ia)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,
(ib)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid myfyrwyr, ac mewn cysylltiad ag ef.
Gwneir diwygiadau—
(a)i’r enwau yr adwaenir tiriogaethau tramor Prydeinig penodol wrthynt bellach, er mwyn bod yn gyson â Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981, a
(b)sy’n ymwneud â statws mewnfudo dinasyddion penodol o Affganistan o ganlyniad i newidiadau a wnaed i’r rheolau mewnfudo.
Gwneir diwygiadau hefyd i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 er mwyn datgymhwyso terfynu cymhwystra yn gynnar ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys o dan amgylchiadau pan fo person wedi dod yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238 (Cy. 243), Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006, erthygl 2(a) (O.S. 2006/1458) gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672) gydag effaith o 1 Gorffennaf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y mae’n ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44(2)(a) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” a “rheoliadau”.
O.S. 2007/2310 (Cy. 181), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2013/1792 (Cy. 179), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2015/1484 (Cy. 163), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2017/47 (Cy. 21), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/481 (Cy. 148), O.S. 2021/1365 (Cy. 360), O.S. 2022/79 (Cy. 28) ac O.S. 2022/764 (Cy. 166). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2018/191 (Cy. 42), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/481 (Cy. 148), O.S. 2021/1365 (Cy. 360), O.S. 2022/79 (Cy. 28), O.S. 2022/473 (Cy. 117), O.S. 2022/764 (Cy. 166) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2018/656 (Cy. 124), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2019/895 (Cy. 161), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.